Gwasanaeth Golchi Ceir Elusennol - Orsaf Dân Caldicot 

Bydd Ymladdwyr Tân o Orsaf Dân Caldicot, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymgasglu’r penwythnos hwn i gynnal gwasanaeth golchi ceir elusennol er budd elusen The Firefighter’s Charity.

Ar ddydd Sadwrn Hydref yr 8fed, rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn, ewch â’ch cerbyd i Orsaf Dân Caldicot, a gwyliwch wrth iddynt wneud i’ch car SGLEINIO!!!

Dywedodd Jason Lewis, Ymladdwr Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Rydym yn gobeithio bydd y gymuned yn galw heibio i ddangos eu cefnogaeth i’r achos da hwn”
Bydd yr holl elw yn mynd at elusen The Firefighter’s Charity.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 06/10/2011
SWFRS