Dathwch yn ddiogel 

‘Dathlwch yn ddiogel’ – dyna yw’r neges gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gymunedau ar draws De Cymru y tymor llawen hwn.

Mae tanau trydanol yn gyfrifol am fwyafrif mawr o’r tanau damweiniol yn Ne Cymru, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at a thros Dymor y Nadolig, ac ar adegau dathliadol eraill ar hyd y flwyddyn. Yn 2010, o’r 801 o danau mewn anheddau yn Ne Cymru, roedd 195 o’r rhain yn danau trydanol.

Eglura Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Mae amrywiaeth cynyddol yng nghymunedau De Cymru sydd wedi arwain at ragor o ddathliadau a gwyliau lle defnyddir addurniadau a fflamau noeth. Yn ogystal, defnyddir addasyddion bloc o gwmpas yr adeg yma er mwyn delio â goleuadau ac offer ychwanegol”. 

“Yn ystod yr Wyl, bydd gan bobl addurniadau, a byddant yn defnyddio mwy o offer trydanol, yn derbyn mwy o ymwelwyr ac o bosib yn ysmygu ac yfed alcohol gartref.” Yn ôl PST Huw Jakeway.  “Y neges gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw i fod yn ymwybodol o’r peryglon, i gymryd gofal ychwanegol ac i ddathlu’n ddiogel.”

Pwyntiau allweddol diogelwch yr Wyl: 

- Profwch eich larymau tân bob wythnos a pheidiwch byth â thynnu’r batris er mwyn eu defnyddio mewn tegannau plant.

- Sicrhewch y caiff pob plwg ei ffitio â’r ffiws cywir, bod y plygiau i gyd wedi’u gwifro’n gywir a bod y gwifrau heb wisgo neu ddifrodi mewn unrhyw fodd.

- Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol. 

- Diffoddwch oleuadau Nadolig ar bob adeg a’u datgysylltu pan na fyddent mewn defnydd a chyn mynd allan neu i’r gwely.

- Peidiwch byth â gadael coginio heb oruchwiliaeth – trowch y popty bant bob tro y byddwch yn gadael y gegin. 

- Peidiwch â choginio pan fyddwch yn feddw – gall alcohol effeithio eich crebwyll

- Peidiwch â defnyddio goleuadau addurniedig a gynlluniwyd ar gyfer deunydd mewnol y tu allan, hyd yn oed os ymddengys y cânt eu cysgodi rhag y tywydd

- Peidiwch byth â gadael canhwyllau sy’n llosgi yn ddioruchwiliaeth neu eu rhoi ger y goeden Nadolig, dodrefn neu lenni. 

- Mae addurniadau yn llosgi’n rhwydd iawn – peidiwch byth â’u hatodi i danwyr neu wresogyddion. 

- Gwiriwch y diffoddwyd unrhyw sigarennau yn llwyr 

- Cadwch gardiau Nadolig, hosannau, anrhegion, addurniadau a phapur lapio diangen yn bell i ffwrdd o danau agored a gwresogyddion. 

- Cadwch goed Nadolig go iawn i ffwrdd o danau a ffynonellau eraill o wres gan eu bod yn hynod losgadwy, yn enwedig wrth iddynt sychu 

- Cynlluniwch lwybr dianc rhag achos o dân a sicrhewch bod pob ymwelydd yn ymwybodol lle cedwir allweddi’r drysau a’r ffenestri.

Yn ogystal, bydd y Gwasanaeth yn targedu’r rhai mwyaf ‘archolladwy’ a’r mwyaf mewn peryg rhag dioddef tân trydanol gartref dros yr Wyl gyda phecynau ychwanegol ‘Archwiliad Iechyd Diogelwch y Cartref’.  Bydd rhain yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a negeseuon sy’n atgoffa’r bobl hynny i fod yn ymwybodol o’r peryglon ac i gymryd gofal ychwanegol ar bob adeg. 

Bydd y pecyn a’r wybodaeth ‘Archwiliad Iechyd Diogelwch y Cartref’ yn canolbwyntio ar atgoffa unigolion i brofi eu larymau mwg a’u heitemau trydanol drwy’r cartref yn rheolaidd.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 13/12/2011
SWFRS