Blocdwr ym Mhontypŵl yw’r cyntaf o’i bath yng Nghymru ac o bosib yn yr DU i gael system daenellu wedi ei ôl-ffitio. Fairview Court, sydd yn berchen i’r perchnogion tai cymdeithasol cofrestredig Bron Afon Community Housing, yw’r fflatiau tŵr cyntaf yng Nghymru i elwa o’r mesur diogelwch hwn.
Bloc o fflatiau uchel 12 llawr sydd â 70 o fflatiau yw Fairview Court; cafodd pob un o’r deiliaid aros yn eu cartrefi tra roedd y gwaith yn digwydd.
Diolch i ymdrechion yr AC Ann Jones, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i fynnu bod cynnwys taenellwyr yn amod gorfodol wrth godi tai a fflatiau newydd sbon. Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod perchnogion tai yn eu ffitio i dai hŷn, ond cymrodd Bron Afon Community Housing benderfyniad i’w ffitio yn Fairview Court, a thros y 6 mis nesaf byddant yn eu ffitio yn The Tower yng Nghwmbran, fflatiau tŵr 21 llawr, ac yn Monmouth House. Mae’n nhw hefyd wedi eu ffitio yn eu cyfadeilad ymddeol blaenllaw, Pleasant Court. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cymeradwyo’r blaengarwch a ddangoswyd gan Bron Afon Community Housing wrth iddynt ôl-ffitio’r taenellwyr i’r fflatiau yn Fairview Court.
Dywedodd Richard Matheson, Pennaeth Diogelwch Tân Deddfwriaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Bydd Mesur Diogelwch Tân yn y Cartref (Cymru) yn gofyn y bydd angen ffitio taenellwyr i dai newydd sbon. Mae Bron Afon wedi arddangos yn glir y gwerth maent yn ei roi ar ddiogelwch tân drwy gymryd cam tu hwnt i’r gofynion, wrth ffitio system daenellu i adeilad sy’n bodoli eisioes. Mae ffitio taenellwyr i’r fflatiau hyn yn gwella diogelwch y deiliaid yn sylweddol ynghyd â’r Ymladdwyr Tân fydd o bosib yn mynychu tân o fewn yr adeilad”.
Dywedodd Dave Sharman, Cyfarwyddwr Eiddo Bron Afon Community Housing: "Fe edrychon ni yn ofalus ar y gwersi a ddysgwyd o danau mewn blociau fflatiau uchel a buom yn cydweithio’n agos â Gwasnaeth Tân ac Achub De Cymru. I ni, mae diogelwch tenantiaid a lesddeiliaid o’r pwys mwyaf, ac mae gennym dystiolaeth taw systemau taenellu yw’r modd mwyaf effeithiol o ymladd tân a rhwystro colledion bywyd.” "Dim ond ar dymheredd o 68 gradd C bydd y taenellwyr yn cychwyn, sydd 10 gradd yn uwch na’r tymheredd uchaf a gofnodwyd yn y Sahara, felly mae hi bron â bod yn amhosib i’w cychwyn drwy losgi tost. Dim ond y taenellwr sydd agosaf at y tân fydd yn cychwyn, fel arfer o fewn munud neu lai o amser. Yn ogystal â diffodd y tân, bydd y taenellwyr yn lleihau yn sylweddol y gronynnau hynny a gynhwysir mewn mwg, a thrwy hynny, lleihau risg niwed rhag anadlu mwg."
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.