Gwaed ar eich dwylo 

A oes gennych chi waed ar eich dwylo?
Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn lansio ymgyrch yn erbyn galwadau ffug

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ‘mynd yn gyhoeddus’ er mwyn dal galwyr ffug.

Bob blwyddyn mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn ymateb i hyd at 600 o alwadau ffug. Y syndod mwyaf yw mai oedolion sy’n gyfrifol am nifer o’r galwadau 999 hyn.

Fodd bynnag, mae nifer y galwadau ffug mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn eu derbyn yn cynyddu yn ystod gwyliau’r haf, sy’n awgrymu bod nifer o’r galwadau yn cael eu gwneud gan blant ysgol.

Mae galwadau ffug, neu ‘galwadau ffug maleisus’ fel y cânt eu galw gan y Gwasanaethau Brys, yn dramgwydd troseddol ac fe all pobl sy'n troseddu dro ar ôl tro gael dirwy neu hyd yn oed ddedfryd o garchar.

O 1 Ionawr 2010 – 31 Rhagfyr 2010 derbyniodd GTADC 2,151 galwad ffug. Cwestiynwyd 420 o’r rhain gan y staff Rheoli ac ni aeth y Criwiau Tân allan, a rhoddwyd y ffôn i lawr ar 1,193 o alwadau. Fodd bynnag, o’r 538 galwad ffug lle aeth y Gwasanaeth Tân ac Achub allan roedd 159 (sef 30%) ohonynt yn ystod gwyliau’r haf*.

Ers 1 Ionawr 2011 mae GTADC wedi derbyn 1,225 galwad ffug. Cwestiynwyd 334 o’r rhain gan y staff Rheoli ac ni aeth y Criwiau Tân allan, a rhoddwyd y ffôn i lawr ar 617 o alwadau. Fodd bynnag, o’r 274 galwad ffug lle ddaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub allan roedd 83 (sef 29%) ohonynt yn ystod gwyliau’r haf** (** 01/06/11 hyd 10/08/11)

Fel rhan o’r ymgyrch ‘Gwaed ar eich dwylo’ bydd GTADC yn rhoi’r galwadau ffug a wnaed at y Gwasanaeth, ar wefan yr ymgyrch ac yn diweddaru’r rhain bob yn ail wythnos. O  Ddydd Mawrth 16 Awst gall pobl fewngofnodi ar www.gwaedardyddwylo.co.uk i wrando ar y galwadau a chanfod mwy am yr ymgyrch. Hefyd, gall unrhyw un sy’n mewngofnodi wylio ffilm fer a grëwyd yn arbennig sy’n adrodd yr hanes o safbwynt dyn mewn oed sy’n gwneud y galwadau ffug hyn.

I ddangos sut mae gwneud galwad ffug yn gallu rhoi ‘gwaed ar ddwylo’ y galwr ffug a pheryglu bywydau, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhoi amserwyr wyau lliw gwaed coch i ffwrdd yn ystod lansiad yr ymgyrch ar ddydd Mawrth 16 Awst 2011, yn St. David’s 2, Caerdydd.

Pwrpas yr amserwyr wyau yw dangos sut mae pob eiliad a wastraffir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i alwadau ffug yn eiliad nad yw’n cael ei roi at ymateb i ddigwyddiad neu argyfwng go iawn - sy’n gallu arwain at golli gwaed a cholli bywydau.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân GTADC a Chadeirydd Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Cynghorydd Anthony Ernest;

“Mae Cysylltyddion ein Hystafell Reoli a’n Hymladdwyr Tân hyfforddedig dros ben yma i wasanaethu’r cyhoedd mewn argyfwng. Fodd bynnag, mae pobl sydd yn gwneud galwadau ffug yn tynnu amser a sgiliau gwerthfawr oddi wrth argyfyngau go iawn, lle gall bywydau fod mewn perygl gwirioneddol.”

“Yr hyn sy’n synnu llawer o bobl yw’r ffaith mai oedolion sy’n gyfrifol am wneud y galwadau hyn, ac nid yn unig plant yn ‘chwarae o gwmpas’ mewn blychau ffôn. Bydd ein staff Rheoli’n herio unrhyw alwyr sy’n swnio’n ddrwgdybus, ond mae’n anodd gwahaniaethu rhwng rhai o’r galwadau hyn sy’n golygu ein bod yn anfon Ymladdwyr Tân allan i ddigwyddiad nad yw’n bodoli.

“Mae gwneud galwad ffug yn dramgwydd troseddol ac rydym wedi uno gyda Crimestoppers i annog rhywun sy’n adnabod unrhyw un sy’n gwneud y galwadau hyn yn yr enghreifftiau ar ein gwefan i’w ffonio a rhoi’r wybodaeth iddynt.”

Yn ôl y ffigurau a nodwyd gan Swyddfa’r Dirprwy Prif Weinidog (ar y pryd) - sydd bellach yn Gymunedau a Llywodraeth Leol, yn y ddogfen ‘Cost Economaidd Tanau: amcangyfrifon ar gyfer 2004’ a gafodd ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2006, cost gyfartalog galwad ffug i’r economi yw £1,970.

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg am nifer o fisoedd, gyda galwadau ffug newydd yn cael eu hychwanegu ar y wefan bob pythefnos. Cysylltwch â’r Uned Troseddau Tân ar 0800 7317287 i’n hysbysu am unrhyw un a ddrwgdybir o wneud galwadau ffug.

I gael eich amserwyr wyau hylif AM DDIM ac i ddarganfod sut y gall galwadau ffug gostio bywydau a’r hyn y gallwch chi ei wneud i’w hatal ewch i stondin ‘gwaed ar eich dwylo’ a siaradwch â phersonél GTADC yno rhwng 10am a 4pm Ddydd Mawrth 16 Awst, 2011, St.David’s 2, Caerdydd

*01/06/10 hyd 01/9/10
** 01/06/11 hyd 10/08/11

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 22/9/2011
SWFRS