I Serbia ar Dân– ‘Llynges Brawf’Cyfle ffilmio cyfryngol/ffotograffiaeth/cyfweliadau
Bydd llynges o 6 Injan Dân yn gadael Castell Caerffili (ochr blaen) ar Ddydd Iau 13eg o Hydref am1.30 y prynhawn (13:30)
Filmio, lluniau a chyfweliadau gyda:
Steve Logan, Rheolwr Gorsaf ac Arweinydd Prosiect, Gorsaf Dân Caerffili
‘Criw’ Serbia – Ymladdwyr Tân ac Ymladdwyr Tân ifanc
I ddatgan diddordeb, cysylltwch â thîm y Wasg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
FFONIWCH RACHEL MCCOY AR 01443 232277r-mccoy@southwales-fire.gov.uk
Cymeradwywyd gynlluniau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ailgylchu hen beiriannau tân drwy eu hanfon i Serbia i gael “ail fywyd”. Ymgyrch i geisio gwella cymwysterau amgylcheddol werdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r rhaglen hon sy’n para tair blynedd.
Daw’r penderfyniad i ailgylchu peiriannau tân diangen yn hytrach na’u gwaredu wrth i’r gwasanaeth dderbyn gofal amryw o beiriannau newydd sbon. Bydd y modelau newydd yn disodli y peiriannu hynny a ddefnyddwyd yng Ngorsafoedd Tân ledled De Cymru am o leiaf 15 mlynedd.
Caiff rhywfaint o’r stoc hyn eu hadleoli i orsafoedd eraill a gosodir rhai modelau naill ochr fel peiriannau “wrth gefn”. Ond gellir danfon rhan o’r hen fflyd i Serbia i ddisodli eu peiriannau sydd wedi dyddio – loriau Byddin Rwsia o gyfnod y 1950au a droswyd yw rhai ohonynt.
Y gŵr sy’n gyrru’r prosiect yw Steve Logan, y Rheolwr Gorsaf yng Ngorsaf Tân Caerffili.
Dywedodd: “Mae’r peiriannau tân a waredir wedi cyrraedd diwedd eu bywyd gwaith o dan amodau safonau Prydeinig. Ond mewn gwledydd sy’n datblygu fel Serbia, mae’r hyn y byddwn ni’n ei dderbyn yn ddiwedd bywyd mwy fel plentyndod yn eu tyb hwy. Oherwydd bod gennym ni raglen o adnewyddu naturiol fel hyn, yn fy marn i mae’n warth gwaredu’r cerbydau hyn heb gynnig ail fywyd iddynt.”
Y llynedd, fe anfonodd ef a’i dîm o ymladdwyr tân, hyfforddwyr a phersonél gorsaf beiriant tân diangen i Serbia, ynghyd â rhagor o gyfarpar ymladd tanau a waredir fel arall.
Dywedodd Dirprwy Uwch Swyddog Diogelwch Tân Huw Jakeway:
“Ffordd foesol yw hon o ddefnyddio peiriannau sydd ar derfyn eu bywydau gwaith ynghyd â chyfarpar eraill tra’n cefnogi gwledydd sy’n datblygu.”
Mewn cydweithrediad â Blue Stag Media, Caerdydd, datblygodd y tîm wefan newydd sbon yn rhestru holl fanylion y daith ; www.blazingtoserbia.co.uk
Mae Gorsaf Tân Caerffili yn gobeithio bydd y gymuned yn eu cynorthwyo. Os oes rhywun yn dymuno noddi peiriant tân neu gynnig rhodd, cysylltwch âPhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar 01443 232000 neu gofynnwch am Steve Logan.
Am ragor o wybodaeth:
www.decymru-tan.gov.uk
NEU YMWELWCH Â
www.facebook.com/SWFireandRescue
http://twitter.com/#!/swfireandrescue
http://www.blazingtoserbia.co.uk
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.