I Serbia ar Dân – ‘Cychwyn ar daith’ 

Hen beiriannau tân yn anelu at fywyd newydd yn Serbia

Ar ddydd Mercher y 19eg o Hydref, bydd aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymadael â Chastell Caerffili, De Cymru gyda’r bwriad o yrru chwe peiriant tân ar draws Ewrop i Serbia. Yna, caiff y peiriannau hyn eu cyflwyno fel rhodd i wlad Serbia. 

Bydd y daith epig hon yn cymryd pum niwrnod i’w chwblhau, yn ymestyn dros 1400 o filltiroedd, a bydd y tîm yn teithio drwy wyth o wledydd Ewropeaidd cyn cyrraedd Serbia.

Y gŵr sy’n gyrru’r prosiect yw Steve Logan, y Rheolwr Gorsaf yng Ngorsaf Tân Caerffili. Dywedodd: “Cyrhaeddodd y peiriannau tân a waredir ddiwedd eu bywyd gwaith o dan amodau safonau Prydeinig. Ond mewn gwledydd sy’n datblygu fel Serbia, mae’r hyn y byddwn ni’n ei dderbyn yn ddiwedd bywyd mwy fel plentyndod yn eu tyb hwy. Oherwydd bod gennym ni raglen o adnewyddu naturiol fel hyn, yn fy marn i mae’n warth gwaredu’r cerbydau hyn heb gynnig ail fywyd iddynt.”

Dywedodd Dirprwy Uwch Swyddog Diogelwch Tân Huw Jakeway :

“Ffordd foesol yw hon o ddefnyddio peiriannau sydd ar derfyn eu bywydau gwaith ynghyd â chyfarpar eraill tra’n cefnogi gwledydd sy’n datblygu”

“Gweithiodd Steve a’i dîm o gefnogwyr yn ddiflino i godi’r arian oedd yn angenrheidiol ar gyfer trosglwyddiad y peiriannau hyn, oedd mawr eu hangen, i Serbia”.

“Wynebodd Steve a’i dîm amryw o rwystrau ar hyd y daith – ond mae eu hangerdd, eu cymhelliant a’u brwdfrydedd i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus yn golygu bydd y llynges chwe pheiriant yn ymadael â Chastell Caerffili, yn unol â’r cynllun, ar ddydd Mercher, Hydref y 19eg gan deithio ar hyd eu taith i Serbia. Rwy’n siwr fy mod yn siarad ar ran holl aelodau’r Gwasanaeth wrth ddymuno taith ddiogel a llwyddiannus iddynt.”. 


Cefndir

Ychydig o fisoedd yn ôl, cymeradwyodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gynlluniau  i ailgylchu hen beiriannau tân drwy eu hanfon i Serbia i gael “ail fywyd”. Ymgyrch i geisio gwella cymwysterau amgylcheddol werdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r rhaglen hon sy’n para tair blynedd.

Daw’r penderfyniad i ailgylchu peiriannau tân diangen yn hytrach na’u gwaredu wrth i’r gwasanaeth dderbyn gofal amryw o beiriannau newydd sbon. Bydd y modelau newydd yn disodli y peiriannu hynny a ddefnyddwyd yng Ngorsafoedd Tân ledled De Cymru ers o leiaf 15 mlynedd.

Caiff rhywfaint o’r stoc hyn eu hadleoli i orsafoedd eraill a gosodir rhai modelau naill ochr fel peiriannau “wrth gefn”. Ond gellir danfon rhan o’r hen fflyd i Serbia i ddisodli eu peiriannau sydd wedi dyddio – loriau Byddin Rwsia o gyfnod y 1950au a droswyd yw rhai ohonynt.

Y gŵr sy’n gyrru’r prosiect yw Steve Logan, y Rheolwr Gorsaf yng Ngorsaf Tân Caerffili.

Y llynedd, fe anfonodd ef a’i dîm o ymladdwyr tân, hyfforddwyr a phersonél  gorsaf beiriant tân diangen i Serbia, ynghyd â rhagor o gyfarpar ymladd tanau a waredir fel arall.

Mewn cydweithrediad â Blue Stag Media, Caerdydd, datblygodd y tîm wefan newydd sbon yn rhestru holl fanylion y daith ; www.blazingtoserbia.co.uk

Mae Gorsaf Tân Caerffili yn gobeithio bydd y gymuned yn eu cynorthwyo. Os oes rhywun yn dymuno noddi peiriant tân neu gynnig rhodd, cysylltwch â Phencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar 01443 232000 neu gofynnwch am Steve Logan.

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 19/10/2011
SWFRS