Llongyfarchiadau Atlantic Dash! 

Am 07:21 y bore ‘ma (Dydd Gwener yr 20fed o Ionawr) ar ôl mordaith o 45 diwrnod, 19 awr ac 21 munud, ac wedi teithio 2615 milltir fôr ar y Pendovey Swift,  mae Jamie Windsor a John Haskell wedi gorffen eu taith wrth gyrraedd Barbados.

Ym mis Rhagfyr 2011, dechreuodd ddau Ymladdwr Tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) John Haskell a Jamie Windsor ar sialens aruthrol yr ‘Atlantic Dash’ – i rwyfo bron 3000 milltir ar draws yr Atlantig.

Mae’r ddau wedi rhwyfo’r holl ffordd heb gymorth, mewn cwch dosbarth ‘Woodvale Pairs’, a gafodd ei ddylunio yn arbennig ar gyfer y ras, er ei fod yn fach – dim ond 7 medr (23.4 troedfedd) o hyd ac 1.9 medr (6.3 troedfedd) o led.

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Dros Dro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r Cynghorydd Anthony Ernest, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru; “

“Roedd hon yn sialens anhygoel a lladdfaol sydd wedi codi llawer o arian ar gyfer nifer o elusennau gwerthfawr - The Fire Fighters Charity, Breast Cancer Care, Help for Heroes a’r WRVS”.

“Ar ran pawb o Wasanaeth ac Awdurdod Tân ac Achub De Cymru hoffem ddweud pa mor falch yr ydym o John a Jamie, a llongyfarchiadau mawr iddynt ar gyflawni’r gamp anhygoel hon”.

RAS WEDI'I GORFFEN

SAFLE

ENW'R
CWCH

ENW'R TIM

DYDDIAD GORFFEN

AMSER GORFFEN

PELLTER WEDI'I DEITHIO

1af

Box Number 8

Box Number 8

14/01/2012 21:15

40 diwrnod 9 awr 15 munud

2591mf

2il

JJ

Andrew's Atlantic Challenge

14/01/2012 21:41

40 diwrnod 9 awr 41 munud

2577mf

3ydd

Atlantic 4

The Atlantic 4

16/01/2012 11:34

41 diwrnod 23 awr 34 munud

2623mf

4ydd

Pendovey Swift

Atlantic Dash

20/01/2012 07:21

45 dirwnod 19 awr 21 munud

2615mf

Gwelwch y fideo diweddaraf gan John a Jamie ym Marbados http://vimeo.com/35401512

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

           Gwybodaeth Berthnasol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 23/1/2012
SWFRS