Andy Marles, cyn BST GTA De Cymru, yn derbyn Anrhydedd Flwyddyn Newydd 

Ar yr 31ain o Ragfyr 2011, adnabyddwyd nifer o bobl arbennig ac ymroddedig am eu cyfraniad i gymdeithas yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Anrhydeddwyd Cyn Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Andy Marles, â’r CBE am wasanaethau i’r Gwasanaeth Tân ac Achub.  Ymddeolodd y gwr 61 oed ym mis Tachwedd yn dilyn gyrfa 34 mlynedd o hyd. Dywedodd Mr Marles, sy’n byw ym Magwyr gyda’i wraig Caroline, taw ymdrech tîm oedd y wobr ;

"Rwy’n teimlo’n hynod urddedig a balch o gael fy anrhydeddu â’r CBE.  Fodd bynnag, ni allwn fod wedi cyflawni unrhywbeth heb y tîm arbennig yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae eu cefnogaeth diflino a’u gofal dros gymunedau De Cymru yn fy ngwneud yn hynod wylaidd."

Dywedodd Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Y Cynghorydd Anthony Ernest “Ar ran Awdurdod Tân ac Achub De Cymru hoffwn ddatgan fy llongyfarchion lu i’r Cyn Brif Swyddog Tân, Andy Marles ac i bawb a dderbyniodd anrhydeddau yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd”.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 12/1/2012
SWFRS