SWFRS

Naw hyfforddai newydd yn yr Ystafell Reoli 

   

Ddoe, fe wnaeth naw Gweithredwr Tân yr Ystafell Reoli dan hyfforddiant, bellach yn cael eu galw’n Ymladdwyr Tân (Ystafell Reoli), raddio o gwrs dwys saith wythnos a byddant yn derbyn eu safleoedd yn Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mhencadlys y sefydliad ym Mhont-y-clun yr wythnos nesaf.

Aeth naw recriwt trwy weithdrefn recriwtio lem, a chawsant eu dethol o ryw 350 o ymgeiswyr gobeithiol.  Yn ystod eu cwrs hyfforddi, heriwyd y naw ym mhob cyfeiriad a thrwy gyfres o brofion ysgrifenedig ac ymarferol, profasant eu sgiliau wrth ymdrin â galwadau, technegau allweddell, gwneud penderfyniadau, techneg radio a dehongli gwybodaeth. 

Yn y seremoni raddio gyntaf o’i math, ar ôl y derbyniad sengl mwyaf o Weithredwyr Ystafell Reoli mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru erioed wedi’i gael, ymunodd teulu a ffrindiau’r naw hyfforddai â chynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am arolwg cwrs gan yr hyfforddeion eu hunain, anerchiadau gan Uwch Swyddogion, a chyflwyno gwobr y ‘Cyflawnwr Uchaf’.  Rhoddwyd y wobr, sy’n cydnabod cyflawniad neilltuol ym mhob maes o’r cwrs hyfforddi, i Chloe Thomas, yr Ymladdwr Tân (Ystafell Reoli) 20 oed o Riwbeina, Caerdydd.  Cyflwynwyd y wobr i Chloe am ei ‘bodlonrwydd anhunanol i helpu eraill, a’i ‘brwdfrydedd heintus am ddysgu.’

Canmolodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymdrechion a gwaith caled yr hyfforddeion newydd.

 “Mae rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar, a bu’n rhaid i rôl yr Ymladdwr Tân (Ystafell Reoli) newid i adlewyrchu llawer o alwadau newydd a wneir ar y Gwasanaeth”, meddai.

Ychwanegodd Andy:  “Yn ogystal â bod y man cyswllt cyntaf i’r cyhoedd, ateb galwadau a pharatoi adnoddau tân, maen nhw hefyd yn cymryd rhan weithredol wrth ddod â digwyddiadau i gasgliadau llwyddiannus trwy ddefnyddio technegau arbenigol wrth ymdrin â galwadau, ac addysgu’r cyhoedd mewn aros yn ddiogel rhag tân ac argyfyngau eraill.  Yn cymryd cyfartaledd o oddeutu 50,000 o alwadau argyfwng y flwyddyn, yn aml gan bobl sydd wedi dychryn ac yn llawn braw, mae’n rhaid iddyn nhw gadw agwedd bwyllog, ddigyffro a phroffesiynol ar bob adeg”.

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 18/11/2008