SWFRS

Ymagwedd dim goddefgarwch mewn ymgyrch tân gwyllt anghyfreithlon 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrthi’n gweithio gyda Safonau Masnachu, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ar draws de Cymru i gyd i waredu tân gwyllt anghyfreithlon rhag cylchrediad.

 

Mae Uned Trosedd Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn eithriadol o brysur yn gweithio gydag Adrannau Safonau Masnachu’r 10 Awdurdod Unedol wrth atafaelu a diogelu tân gwyllt anghyfreithlon, a oedd yn cael eu storio a’u gwerthu gan werthwyr didrwydded.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhoi lle diogel i gadw’r tân gwyllt atafaeledig hyn yn ardal y Gwasanaeth.  Hyd yn hyn, mae gwerth oddeutu £30,000 o dân gwyllt anghyfreithlon wedi’i atafaelu.

 

Meddai Mick Flanagan, Pennaeth Trosedd Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn mannau sy’n hysbys amdano yn ogystal â chynnal gwiriadau ar hap gyda Safonau Masnachu a’r Heddlu i gael gwared ag unrhyw dân gwyllt sydd ar werth heb drwydded.  Yn anffodus, mae pobl ifanc yn gallu cael gafael ar lawer o’r tân gwyllt hyn, gan eu defnyddio i achosi niwsans cyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.”

 

“Rydyn ni wedi mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch oherwydd natur ddifrifol iawn storio a thanio tân gwyllt.  Mae tân gwyllt yn eithriadol o beryglus yn y dwylo anghywir.  Mae’r ymagwedd unedig lle mae’r holl asiantaethau wedi cefnogi ei gilydd eisoes yn profi i fod yn llwyddiant.  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cynorthwyo â gwaredu tân gwyllt a atafaelwyd gan y tîm a’i storio’n ddiogel.”  

 

Mae tân gwyllt anghyfreithlon wedi’u diffinio fel y rhai nad ydynt yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig ac sydd fel arfer yn cael eu mewnforio o dramor.  Nid ydynt yn dangos ‘cod dosbarthu’ a fydd, yn hanfodol, yn dangos a ydyn nhw’n addas i aelodau’r cyhoedd eu defnyddio.

 

Dylai unrhyw un sy’n ymwybodol o fasnachu tân gwyllt anghyfreithlon gysylltu â’i dîm Safonau Masnachu lleol yn ei Awdurdod Lleol neu gall ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.

 

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 21/2/2010