SWFRS

Camerâu pen yn cael eu rhoi i ymladdwyr tân 

Mae camerâu pen arbennig wedi cael eu rhoi i ymladdwyr tân y Rhath mewn ymgais i leihau nifer yr ymosodiadau maen nhw’n eu dioddef gan bobl ifanc sy’n taflu cerrig. 

Mae’r camerâu pen wedi cael eu rhoi ar ôl sawl ymosodiad gan gangiau o bobl ifanc yn yr ardal, sydd wedi pledu ymladdwyr tân â cherrig a hyrddio sylwadau sarhaus atynt pan fyddant yn mynd i ddigwyddiadau.  Gobeithir y bydd y camerâu pen hyn naill ai’n gweithredu fel arf ataliol i’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn, neu y bydd y lluniau a geir ar y camera’n helpu i adnabod yr euogion a dod â nhw o flaen eu gwell.  

“Mae ymladdwyr tân yn peryglu eu bywydau dros eu cymuned - maen nhw bob amser wedi gorfod ystyried eu diogelwch wrth ymdrin â digwyddiad a allai fod yn beryglus.  Ond bellach mae’n ymddangos bod angen iddyn nhw hefyd ofalu am eu diogelwch personol yn deillio o ymosodiad gan aelod o’r gymuned maen nhw’n ceisio ei hamddiffyn”, meddai Adrian Moyse, Pennaeth Gorsaf Dân y Rhath. 

“Trwy glymu’r camera pen wrth helmed rhai o’r criwiau tân, bydd pobl ifanc yn gwybod eu bod nhw’n debyg o gael eu recordio’n ymosod ar ein criwiau sydd ond yn ceisio gwneud eu gwaith, a bydd gennym dystiolaeth nad oes modd dianc rhagddi o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan y bobl ifanc hyn, y byddwn yn ei throsglwyddo i’r Heddlu”, ychwanegodd.

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 21/2/2010