Safonau Gofal Cwsmer 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i ddarparu Gwasanaeth Tân, Achub a Diogelwch Tân sy’n effeithiol ac effeithlon o ran cost i bobl De Cymru.

Mae wedi ymrwymo i ostwng nifer y marwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau y gellir eu hatal, a gostwng nifer y tanau mewn adeiladau, eiddo arall a chefn gwlad y gellir eu hatal.

Mae croeso i’r cyhoedd ohebu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, a bydd unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig yn cael ei hateb yn yr un iaith y cafodd ei derbyn ynddi.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn:-

    • Ymateb i bob galwad am gymorth pan fydd pobl angen gwasanaeth ymladd tân neu wasanaeth achub o fewn amser penodol (gweler isod).
    • Darparu cymorth ar faterion Diogelwch Tân
    • Darparu gwybodaeth Diogelwch Tân i gymunedau De Cymru trwy daflenni a darlithoedd dwyieithog, yn ogystal â ffyrdd priodol eraill.
    • Sicrhau bod y Gwasanaeth yn gyfarwydd gyda’r risgiau arbennig a’r risgiau uchel o ran bywyd o fewn ardal y Gwasanaeth gan gynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr.
    • Darparu offer achub arbenigol a’r hyfforddiant angenrheidiol i bersonél.
    • Sicrhau bod safonau proffesiynol uchel yn cael eu cynnal drwy hyfforddiant parhaus sydd ei angen i fodloni anghenion newidiol.
    • Defnyddio technoleg newydd lle bo modd i sicrhau ymateb cywir i ddigwyddiadau yn ardal y Gwasanaeth a hefyd i gynnal cofnod o’n perfformiad.
    • Hyrwyddo a chefnogi mentrau sydd wedi’u hanelu at ostwng nifer y tanau, marwolaethau ac anafiadau sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn eu cymunedau.

    Cliciwch yma i weld PDF y ddogfen yn llawn

 

Click below for the full document

Safonau Gofal Cwsmer
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 06/5/2011
SWFRS