Cymru – paid â chwarae gyda thân yn ystod y Chwe Gwlad 

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn rhoi rhybudd difrifol yn ystod ymgyrch Chwe Gwlad Cymru.

Wrth i bobl ar draws Cymru fwynhau gwledd o rygbi dros yr wythnosau i ddod, hoffai Ymladdwyr Tân yng Nghymru weld llwyddiant ar y cae ac oddi ar y cae ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu!

Wrth i filoedd o ddilynwyr rygbi fynd allan i yfed, hoffai Ymladdwyr Tân iddynt gofio peidio â mentro coginio ar ôl hynny!

Gall alcohol gael effaith ddifrifol ar ein synnwyr cyffredin, yn enwedig wrth wynebu sefyllfa brys fel tân sosban sglodion neu dân coginio arall. Mae llawer o bobl yn mwynhau’r rygbi gyda diodydd alcoholig, yn eu cartrefi eu hunain neu allan yng nghanol awyrgylch y tafarndai, ond y canlyniad gwaethaf i’r Chwe Gwlad eleni byddai colli rhywun mewn tân a allai fod wedi cael ei osgoi.

Yng Nghymru yn 2007-2008 roedd 1,987 o danau damweiniol yn y cartref. O’r rhain, doedd dim larwm mwg neu larwm mwg nad oedd yn gweithio gyda 946 (48%) o’r cartrefi. Felly, roedd gan tua hanner o’r holl danau damweiniol yn y cartref yng Nghymru a fynychodd y Gwasanaethau Tân ac Achub larymau mwg a oedd yn gweithio.

Yn ystod yr un cyfnod, collwyd ugain o fywydau mewn tanau damweiniol yn y cartref yng Nghymru. Achos tri ar ddeg o’r tanau angheuol hyn oedd deunyddiau ysmygu (e.e. Sigaréts), sydd hefyd yn gallu bod yn beryglus iawn pan fyddwch o dan effaith alcohol, ac achos tri o’r tanau angheuol oedd coginio.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru,

Rydym yn cynghori’n gryf i beidio ag yfed alcohol yna ceisio coginio pryd o fwyd poeth i’ch hun wedi i chi gyrraedd adref. Mae’n Hymladdwyr Tân yn mynychu tanau difrifol yn y cartref yn rheolaidd, sydd wedi’u hachosi gan ddiffyg sylw wrth goginio. Gall y canlyniadau fod yn ddifrodus, hyd yn oed yn angheuol, felly da chi gwnewch rywbeth arall yn hytrach na defnyddio peiriannau coginio pan fyddwch wedi cael llawer i’w yfed.

Un o’r problemau mwyaf yw’r hen  steil o sosban sglodion, mae’r olew yn gorboethi yna’n cynnau ar dân, neu mae’r olew yn gollwng dros yr ochr ar y ffwrn ac yn cynnau ar dân. Mae’r cyfuniad o fod yn gysglyd oherwydd alcohol a’r amser y mae’n cymryd i sosban sglodion dwymo yn gallu achosi tân difrifol.

Dim ond tair i bum munud sydd ei hangen ar sosban sglodion â fflam llawn oddi tanodd i gynnau os nad oes neb yn cadw llygad arni. Gall y tân ledu yn gyflym o’r gegin i weddill y cartref.

Cofiwch:

  • Peidiwch byth â choginio bwyd, yn enwedig bwyd wedi’i ffrio, ar ôl yfed alcohol – ‘Nid yw Yfed a Choginio yn Cymysgu'
  • Os ydych angen bwyta ar ôl alcohol, ystyriwch y lle bwyd parod lleol cyn mynd adref, neu archebu bwyd i gael ei gludo i’r tŷ
  • Meddyliwch am baratoi rhywbeth cyn mynd allan i’w fwyta ar ôl cyrraedd adref.

Os ydych yn coginio sglodion neu fwyd wedi’i ffrio’n ddwfn ar unrhyw adeg arall, dilynwch y canllawiau hyn:
  • Peidiwch byth â llenwi’r sosban fwy na un rhan o dair gydag olew
  • Peidiwch byth â gadael y sosban gyda’r gwres arno – hyd yn oed am rai eiliadau
  • Sychwch y sglodion cyn eu rhoi yn y sosban
  • Peidiwch byth â rhoi’r sglodion yn y sosban os yw’r olew yn dechrau mygu. Trowch y gwres i ffwrdd a gadael i’r olew oeri, neu fe allai gynnau ar dân
  • Defnyddiwch beiriant ffrio dwfn trydanol sydd wedi’i reoli gan thermostat. Nid yw’n gallu gorboethi.

Os oes tân sosban sglodion yn dechrau, ewch allan o’r gegin, cau’r drws tu ôl i chi, cael pawb allan o’r tŷ, arhoswch allan, a galwch y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Gall unrhyw un yng Nghymru alw’r rhif rhadffôn cenedlaethol, 0800 169 1234 i wneud cais am ymchwiliad diogelwch tân yn y cartref.  Bydd Ymladdwyr Tân o’ch ardal leol yn dod i’ch cartref pan fydd yn gyfleus i chi, byddant yn rhoi cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref ac yn gosod larymau mwg am ddim.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref

               Ymweliad Diogelwch Tân
               yn y Cartref

Ffôn am dim ar 0800 169 1234

Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein

E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref 
Testun
: 88365 [
Canllaw]

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS