Enillydd cystadleuaeth yn herio gyrwyr yn ne Cymru 

Cafodd myfyrwraig o Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth ei henwi’n enghraifft go iawn i bobl ifanc eraill wedi iddi ennill cystadleuaeth a osodwyd gan Ymladdwyr Tân Penarth yn ymwneud â chanlyniadau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.



Disgleiriodd Emily Gronow, 17 oed, mewn cystadleuaeth diogelwch ar y ffyrdd gyda’i ffilm ddidrugaredd sy’n seiliedig ar gerdd yn sôn am brofiad go iawn o golli anwylyd mewn gwrthdrawiad ar y ffordd. Trefnodd Ymladdwyr Tân o Wylfa Goch, Gorsaf Dân Penarth y gystadleuaeth ynghynt yn y flwyddyn, gan osod yr her i bobl ifanc gynhyrchu darn o waith a fyddai’n adlewyrchu realiti creulon gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd ac yn anfon neges a fyddai’n helpu i leihau gwrthdrawiadau yn y dyfodol.



Mae’r fideo’n dilyn hanes colled bersonol hynod drist yn ystod gwrthdrawiad car a defnyddiodd Emily ei mam a ffrindiau fel prif sêr y ffilm. Nawr, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n trefnu y bydd y fideo ar gael i’w holl orsafoedd tân er mwyn pwysleisio neges diogelwch ar y ffyrdd trwy lygaid person yn ei arddegau.



Dywedodd John Davies, Rheolwr Gorsaf Penarth, “Pan welson ni’r fideo hwn, roeddem ni’n gwybod yn syth y gallai’r ffilm roi’r neges i bobl eraill yn eu harddegau ac y byddai’n ddefnyddiol ledled y Gwasanaeth. Gall Gorsafoedd Tân eraill defnyddio hwn er mwyn pwysleisio diogelwch ar y ffyrdd i bobl yn eu harddegau. Mae’r prosiect hwn yn ffrwyth ymdrech anferthol gan Emily ac rydym yn gwerthfawrogi’i hymdrechion.”



Bydd y cyflwyniad i Emily Gronow yn digwydd ychydig ddyddiau’n unig cyn Achub Byd Cymru 2008 yn Arena Ryngwladol Caerdydd, lle bydd Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Gyfan y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael ei lansio am y tro cyntaf hefyd. Bydd Ymladdwyr Tân o bob cwr o’r byd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cyfres o heriau achub yn Achub Byd Cymru 2008. Y prif ddigwyddiad yw Her Rhyddhau’r Byd, pan fydd cannoedd o Ymladdwyr Tân yn cystadlu yn erbyn y cloc ac o dan lygaid gwyliadwrus beirniaid Sefydliad Achub y Byd, gan arddangos eu sgiliau wrth ryddhau pobl wedi’u hanafu o ‘geir wedi’u malu’ sy’n ymddangos fel eu bod wedi dioddef gwrthdrawiad.



Mae Ymladdwyr Tân yn cael eu galw i filoedd o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd bob blwyddyn yn ne Cymru. Yn aml, nhw yw’r cyntaf i gyrraedd ac maen nhw’n hollol ymwybodol o’r canlyniadau dychrynllyd. Bydd y fideo a gynhyrchwyd gan Emily yn dod yn rhan o ymgyrch barhaus i leihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd trwy wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon a mesurau diogelwch syml y dylent eu cymryd.



Er mwyn gwneud y digwyddiad hwn yn fwy pwysig fyth, bydd Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Meryl James, yno ynghyd â swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd yr awdurdod lleol i longyfarch Emily.

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 17/6/2009
SWFRS