Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn ail-ethol Cynghorydd y Fro fel Cadeirydd 

Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn falch i gyhoeddi bod Y Cynghorydd Anthony Ernest, Bro Morgannwg, wedi’i ail-ethol fel Cadeirydd yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cafodd ei ethol ar gyfer y swydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar Fehefin 15 ynghyd â’r Cynghorydd Keith Hyde, Caerdydd a gafodd ei ail-ethol fel Is-gadeirydd yr Awdurdod.

Dywedodd y Cynghorydd Ernest, “Rwyf wedi gwasanaethu ar yr Awdurdod hwn am bum mlynedd ac rwy’n hynod falch i gael fy ail-ethol i wasanaethu blwyddyn arall fel Cadeirydd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn sefydliad sy’n perfformio’n uchel ac sy’n helpu miloedd o aelodau’r cyhoedd pob dydd pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r risgiau a’r peryglon y mae nifer ohonom yn eu hwynebu yn ystod ein bywydau. Mae bod yn Gadeirydd sefydliad o’r fath yn anrhydedd mawr wrth i ni symud y Gwasanaeth ymlaen a pharhau gyda chyflawni’r gwaith arbennig y mae’n ei wneud.”

Dechreuodd Anthony Ernest ar ei yrfa o fewn Llywodraeth Leol ym 1974 pan gafodd ei ethol am y tro cyntaf i Gyngor Tref Penarth, roedd yn Faer ym 1980, gan gael ei ail-ethol pob pedair blynedd hyd nes 1995, gan ddychwelyd ym 1999 ac y mae dal yno heddiw. Bu hefyd yn Gadeirydd (Maer) Cyngor Bro Morgannwg yn 2000, ac yn Llefarydd yr Wrthblaid ar faterion Gwasanaeth Tân i Gyngor Sir De Morgannwg gynt rhwng 1993-96.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Croesawn benderfyniad yr Awdurdod i ail-ethol Y Cynghorydd Ernest fel ein Cadeirydd ac edrychwn ymlaen at flwyddyn arall gydag ef yn y swydd hon.”

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 23/7/2009
SWFRS