Mellten yn Taro Merch 10 Mlwydd Oed  

Tua 17.15 o’r gloch ddydd Llun 9 Mai, fe fynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddigwyddiad mewn tŷ dau lawr ym Merthyr.

Roedd mellten wedi taro llawr uchaf y tŷ. Cafodd merch ei tharo gan y fellten gan ddioddef anafiadau i ran uchaf ei chorff a rhan gwaelod ei choesau. Aeth y ferch i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Dywedodd Andy Methven, Rheolwr Gorsaf sy’n rhan o dîm archwilio tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

"Pan gyrhaeddais safle’r digwyddiad roeddwn yn gallu gweld bod y fellten wedi cracio ffenestr dwbl-wydrog ac roedd pwynt mynediad a phwynt gadael i’w weld. Roedd marc bychan i’w weld ar y carped, roeddwn yn tybio mai dyma’r pwynt y gwnaeth y fellten adael y ferch ar ôl mynd drwyddi”.

Ychwanegodd; “Dyma’r tro cyntaf yn fy 23 mlynedd gyda’r gwasanaeth tân ac achub i mi ymchwilio neu fynd i ddigwyddiad tebyg i hwn.

Dywedodd Matt Jones, Rheolwr Gwylfa o uned troseddu tân a thîm ymchwilio tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Mae digwyddiad tebyg i hwn yn anghyffredin iawn, rwy’n Swyddog Ymchwilio Tân Lefel 3 gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac nid wyf wedi gweld digwyddiad fel hwn o’r blaen”.
Ychwanegodd, “Yn ffodus, dim ond mân anafiadau gafodd y ferch. Fe allai wedi bod yn llawer gwaeth mewn digwyddiad fel hwn”.

Doedd dim tân yn y cartref.

 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

              Contact Details




Tel:
01443 232000
Fax: 01443 232165

email: press_office@southwales-fire.gov.uk

 
You can now Like us on Facebook, follow us on Twitter and view us on Flickr and YouTube

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 12/5/2011
SWFRS