Pob tro mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael eu galw at dân glaswellt neu fynydd mae’n costio miloedd o bunnoedd i drethdalwyr, yn ogystal â golygu y gallai Ymladdwyr Tân gael eu dargyfeirio rhag cyrraedd gwir argyfwng – rhywun wedi’u dal mewn tân yn y cartref neu mewn car sydd wedi cael damwain.
Yn ystod gwyliau’r Pasg mynychodd Ymladdwyr Tân tua 127 o danau glaswellt yn ardal Rhondda Cynon Taf, o’i gymharu â 66 adeg Gwyliau’r Pasg yn 2008.
Yn ystod yr haf, bydd Uned Troseddu Tân arbennig yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf gyda’r bwriad o greu ‘RCT heb dân’. Bydd yn patrolio ardaloedd sydd wedi bod yn broblem gan edrych allan am unrhyw ymddygiad amheus, yn trefnu cystadlaethau a thwrnameintiau chwaraeon ar gyfer pobl ifanc lleol yn ogystal â gweithgareddau ymgysylltu a gwyro eraill.
Yn arwain at, ac yn ystod gwyliau’r haf, bydd y tîm yn bwriadu cymryd gorsaf gemau symudol i ganol trefi Pontypridd, Tonypandy ac Aberdâr. Bydd pobl ifanc yn gallu cymryd rhan mewn her consol gemau gyda’r tîm Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r tîm hefyd yn cynllunio twrnamaint pêl-droed a rygbi yn yr haf i’r bobl ifanc gael cymryd rhan ynddo.
Mae pobl sy’n cynnau tanau bwriadol yn droseddwyr sy’n gallu cael eu herlyn ac fe allent hyd yn oed fynd i’r carchar. Mae angen eich help arnom i ddal y troseddwyr hyn er mwyn i chi allu mwynhau ‘RCT heb dân’.