Yn ystod mis Mawrth ag Ebrill 2010 bydd llawer o weithgareddau heriol a chyffrous i bobl ifanc Tonypandy gael cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys abseilio, byw yn y gwyllt a gweithdai graffiti. Bwriad y gweithgareddau hyn yw ymgysylltu â phobl ifanc Tonypandy a’u haddysgu ar beryglon a chanlyniadau tanau glaswellt, yn ogystal â lleihau nifer y tanau glaswellt sy’n cael eu cynnau yn fwriadol.
Hoffwn wahodd disgyblion Coleg Cymunedol Tonypandy i gynllunio logo neu slogan a fydd yn dod yn ‘frand ymbarél’ i’r prosiect a bydd yn cael ei ddefnyddio ar holl ddeunyddiau’r prosiect ac wrth gyfathrebu gan gynnwys y wefan, taflenni, papurau newydd, arosfeydd bws a hysbysfyrddau - gan ei wneud yn hynod weledol ar draws Tonypandy.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy gyflwyno ‘prosiect lleihau tanau glaswellt bwriadol’ yn Nhonypandy a fydd yn cynnwys cynnal gweithgareddau gwyro ac ymgysylltu niferus gyda phobl ifanc Tonypandy yn ystod mis Mawrth ag Ebrill 2010.
Bydd y logo/slogan yn creu ymwybyddiaeth o’r prosiect a bydd yn symbol parhaus o’r hyn mae’r prosiect a’r Gwasanaeth yn ceisio cyflawni:
Rydym yn edrych am logo a slogan sy’n fyr, yn hawdd i’w cofio ac yn denu sylw pobl. Enghraifft o slogan fyddai “Pain in the Grass”, sy’n fyr, yn hawdd i’w gofio ac yn dweud yn eglur beth yw ein bwriad. Enghraifft o logo fyddai logo SUB21 a gafodd ei ddefnyddio mewn ymgyrch i leihau yfed o dan oedran.
Dylid rhoi'r ffurflenni cais a chanllawiau i fyfyrwyr cyn gwyliau’r Nadolig. Dylai myfyrwyr roi eu ceisiadau llawn yn y blwch yn nerbynfa’r ysgol erbyn Dydd Gwener 15 Ionawr
Dim ond disgyblion Tonypandy sy’n cael cynnig y gystadleuaeth hon ac felly mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr wneud cyfraniad sylweddol tuag at wneud eu cymuned yn lle mwy diogel i fyw. Yn ychwanegol, bydd y sawl sy’n ennill yn gweld ei logo/cynllun ar draws Tonypandy ac yn derbyn gwerth £200 o docynnau i’w gwario yn Argos!
Wyt ti am gael y cyfle i weld rhywbeth yr wyt ti wedi’i gynllunio ar hysbysfyrddau, posteri a phethau eraill ac ennill gwerth £200 o docynnau i’w gwario yn Argos? Os mai ‘ydw’ yw dy ateb, dyma’r gystadleuaeth i ti!
Hoffwn dy wahodd i gynllunio logo neu slogan a fydd yn cael ei ddefnyddio ar ein holl ddeunyddiau gweithgaredd gan gynnwys gwefannau, taflenni, papurau newydd, arosfeydd bws a hysbysfyrddau.
Os wyt ti’n credu fod gen ti’r dychymyg i greu logo neu slogan sy’n fyr, yn hawdd i’w gofio ac yn denu sylw pobl yna gofyn i dy athro am ffurflen gais neu lawrlwytha un o’r dudalen flaen. Rhaid cwblhau’r ffurflen gais gan ddefnyddio’r canllawiau isod.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.