Rôl yr adran yw codi proffil y Gwasanaeth yn lleol ac yn genedlaethol; sicrhau bod negeseuon cyhoeddus pwysig yn cyrraedd y gymuned mewn ffordd gorfforaethol a phroffesiynol; a hysbysebu llwyddiant y Gwasanaeth yn fewnol ac yn allanol.
Yr adran Cyfryngau a Chyfathrebu yw’r man cyswllt cyntaf i’r cyfryngau argraffu a darlledu ac rydyn ni’n ymateb i gannoedd o alwadau gan y cyfryngau bob blwyddyn, yn amrywio o ymholiadau am ddigwyddiadau, ceisiadau gan griwiau ffilmio am ymladdwyr tân a gorsafoedd tân fel ecstras a lleoliadau, ceisiadau am ystadegau a llefaryddion ar ystod enfawr o faterion, yn amrywio o ddigwyddiadau lleol a gorsafoedd tân i gwestiynau gwleidyddol a chwestiynau polisi.
Rydyn ni’n ysgrifennu ac yn rhoi datganiadau i’r wasg, ysgrifau nodwedd, erthyglau a hysbysebion, ac rydyn ni’n cynllunio, trefnu a gweithredu ymgyrchoedd cyfryngau a marchnata ac yn trefnu cyfleoedd lluniau, ffilmio a chyfweliadau a darpariaeth eitem hyrwyddol wrth gefnogi’r ymgyrchoedd hynny
Mae ein dylunwyr graffeg yn gyfrifol am ddylunio ac argraffu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata a dogfennau Gwasanaeth i’w dosbarthu’n fewnol ac yn allanol.
Manylion Cyswllt Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165 E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.