Yn ystod 2007/08, mynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mwy na 28,298 o ddigwyddiadau argyfwng. Roedd mwy nag un galwad ffôn am rai o'r digwyddiadau yma, felly trinwyd â 53,046 galwad gan yr Ystafell Reoli; mae hynny'n fwy na 145 galwad brys bob dydd. Yn ogystal â hyn roedd mwy na 900 o alwadau Diachos Maleisus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Diffinnir digwyddiadau fel:
Tanau cynradd (FDR1) Tanau eiddo, er enghraifft: anheddau (gan gynnwys tai symudol a charafannau); cerbydau; ysgolion; ysbytai; storio awyr agored, offer a pheirianwaith; strwythurau awyr agored (gan gynnwys blychau post a phontydd); coedwigaeth; a phob tân sydd â phobl anafedig, achubiadau neu ddiangfeydd ynghlwm. Nid yw’n cynnwys adeiladau gweigion neu gerbydau gweigion
Tanau eilaidd (FDR3) Tanau nad ydynt yn ymwneud ag eiddo, er enghraifft: tir glaswellt; ysbwriel; adeiladau gweigion unigol; cerbydau gweigion unigol
Galwadau Gwasanaeth Arbennig (GGA) Mae’r rhain yn cynnwys: gwrthdrawiadau trafnidiaeth ffordd (gan gynnwys rhyddhau pobl wedi’u hanafu); rhyddhau/achub pobl/anifeiliaid; yn delio gydag arllwysiadau a gollyngiadau; digwyddiadau gorlifo; darpariaeth ddŵr; a symud/achub gwrthrychau
Galwadau Tân FfugGall y rhain fod yn Alwadau Tân Ffug gyda Bwriad Da (CBD) – fel arfer (ond nid bob tro) wedi’u derbyn gan aelodau o’r cyhoedd neu wasanaethau eraill; Galwadau Tân Ffug gyda Bwriad Maleisus (GBM) – galwadau ffug; neu Larymau Tân Awtomatig (LTA) – achoswyd gan gychwyn amhriodol o’r larymau
Simdde Yn ymwneud â simneiau o fewn anheddau ac adeiladau eraill a feddiannwyd