Cadwch yn Ddiogel yr haf hwn  

Wyt ti am wybod sut i gadw'n ddiogel yr Haf hwn?

Mae gan bob un o'r Tri Gwasanaeth Tân ac Achub un amcan cyffredin sydd wrth wraidd popeth y byddwn yn ei wneud  -  i weithio gyda'n gilydd i brofi Cymru well.

Mae achub bywydau a lleihau risg yn ganolog i'n cenhadaeth i wneud Cymru'n le diogelach i bobl byw, gweithio ac ymweld.

Dymunwn haf llawn hwyl i bawb – ond un diogel hefyd. Oherwydd bydd gan hyd yn oed haf Prydeinig 'arferol' ei beryglon os na ddilynwch gyfarwyddyd diogelwch tân a ffyrdd ymarferol a chywir.

Gall nifer o ragofalon syml ac ychydig mwy o ofal eich cadw chi a'ch teulu’n ddiogelach a chynorthwyo i atal y mwyafrif o beryglon tân a ffyrdd

Gobeithiwn y byddwch yn dilyn ein cyngor syml wrth fwynhau'r haf:

 
Gwersylla a charafanio:

  • Sicrhewch y cedwir pebyll neu garafanau yn ddiogel a phellter priodol ar wahân - yn ôl cyfarwyddyd eich gwersyll.
  • Darganfyddwch beth yw trefniadau ymladd tân eich gwersyll a lle mae'r ffôn agosaf.
  • Cadwch fflach lamp wrth law ar gyfer argyfyngau. Peidiwch â defnyddio cannwyll.
  • Gosodwch larwm mwg gweledol yn eich carafán.
  • Peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain mewn carafán.

Peidiwch byth â gorlwytho socedau plygiau – cymeradwyir dyfeisiau cerrynt gweddillol (RCD) – ac ar bob adeg, sicrhewch y byddwch yn dadweindio ceblau ymestyn torchog.

Os bydd tân:

  • Ewch â phawb allan ar unwaith. Mae tanau mewn pebyll a charafanau yn lledu'n gyflym iawn.
  • Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.
  • Rhowch gyfeirnod map, os yn bosib. Fel arall, soniwch am unrhyw dirnod megis fferm neu dafarn bydd yn cynorthwyo'r Gwasanaeth Tân ac Achub i'ch lleoli.


Pebyll

  • Cadwch fatsis a thanwyr tu hwnt i gyrraedd plant.
  • Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy ymhell o bebyll.
  • Peidiwch â choginio y tu mewn i'ch pabell.
  • Byddwch yn barod i dorri eich hun allan o'r babell os bydd tân yn digwydd.
  • Os bydd eich dillad yn cynnau, ARHOSWCH, DISGYNNWCH A RHOLIWCH.
  • Peidiwch byth â defnyddio canhwyllau mewn pabell neu'n agos iddo. Mae fflach lampau lawer diogelach.
  • Ni ddylid defnyddio peiriannau llosgi olew naill ai oddi fewn neu o gwmpas pebyll.
  • Ni ddylid defnyddio cyfarpar coginio mewn pebyll bychain.
  • Peidiwch ag ysmygu y tu mewn i bebyll.


Barbeciwiau

  • Sicrhewch fod eich barbeciw mewn cyflwr gweithiol da.
  • Cadwch fwced o ddŵr, tywod neu bibell ardd gyfagos rhag ofn cewch argyfyngau.
  • Gwnewch yn siŵr bod safle eich barbeciw yn wastad ac yn bell i fwrdd o adeiladau, ffensys, coed a llwyni.
  • Defnyddiwch ddigon o olosg i orchuddio gwaelod y barbeciw yn unig hyd ddyfnder o tua 50mm (dwy fodfedd).
  • Cadwch blant, gemau gardd ac anifeiliaid anwes yn bell i ffwrdd o'r ardal goginio.
  • Peidiwch ag yfed a choginio
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio, sicrhewch fod y barbeciw yn oer cyn ceisio ei symud. Gwagiwch lwch yn syth i bridd moel yr ardd.
  • Peidiwch byth â gadael barbeciw heb ofal.
  • Peidiwch byth â rhoi llwch yn syth mewn i fin sbwriel neu fin olwyn. Os byddant yn boeth, gallant blygu'r plastig ac achosi tân.


Barbeciwiau Nwy

  • Sicrhewch fod y tap wedi'i ddiffodd cyn newid y silindr nwy.
  • Newidiwch silindrau nwy yn yr awyr agored os yn bosib neu agorwch ddrysau a ffenestri er mwyn darparu awyriad da.
  • Wedi i chi orffen coginio, diffoddwch y silindr nwy cyn i chi ddiffodd rheolyddion y barbeciw er mwyn sicrhau y defnyddir unrhyw nwy sydd yn y biben.

Peidiwch byth â rhoi barbeciw yn eich pabell, carafán neu adlen - hyd yn oed un sy'n oeri

Nid yn unig mae risg o dân, ond bydd mygdarthau Carbon Monocsid hefyd yn codi o dân.

Mae Carbon Monocsid yn anweladwy, yn ddiarogl ac yn farwol. Mae'n bosib y byddwch yn credu ei fod yn ddiogel gan fod y fflamau wedi diffodd OND allyrrir mwy o Garbon Monocsid oddi ar farbeciw sy'n oeri nag un poeth.

Defnyddiwch farbeciwiau a thanau agored yn yr awyr agored yn unig.


Storio silindrau nwy

  • Storio silindrau nwy o dan amodau da a diogel. Cadwch silindrau nwy rhag rhew a haul uniongyrchol.
  • Peidiwch byth â storio silindrau nwy dan risiau eich cartref  – os ydych yn byw lan lofft hwn yw eich modd o ddianc rhag tân.
  • Peidiwch â chadw silindrau nwy nad oes angen arnoch. Dychwelwch bob silindr gwag lle prynoch chi hwy.


Diogelwch Tân yng Nghefn Gwlad

Yn ystod yr haf, gall gwair a mynyddoedd dyfu'n sych iawn, sy'n golygu os byddwch yn cychwyn tân yn yr awyr agored yn fwriadol neu'n ddamweiniol bydd yn gwasgaru'n gyflym iawn, yn distrywio popeth sydd yn ei lwybr.

  • Diffoddwch sigaréts a defnyddiau ysmygu'n gywir.
  • Defnyddiwch farbeciwiau mewn ardaloedd diogel ac addas yn unig - peidiwch byth â'i gadael heb ofal a diffoddwch hwy yn gywir ar bob adeg. 
  • Peidiwch byth â chychwyn tanau agored yng nghefn gwlad


Hedfan i'r haul

Dilynwch y camau syml hyn cyn gadael eich cartref er mwyn lleihau'r perygl o ddychwelyd adref i dân go iawn!

  • Diffoddwch offer trydanol a thynnwch y plwg
  • Trowch y dŵr bant wrth y cyflenwad i atal gollyngiadau posib rhag dod i gysylltiad â weiriad trydanol, sy'n achosi tân
  • Rhowch wybod i gymydog eich bod yn mynd i ffwrdd a rhowch allwedd iddynt rhag ofn bydd argyfwng
  • Caewch bob drws a ffenestr, gan fydd hyn yn arafu symudiad tân
  • Gwnewch yn siŵr bod pob larwm mwg wedi'i osod yn gywir ac yn gweithio'n iawn


Diogelwch ar y ffyrdd

Yn aml, mae'n hawdd tyfu'n ddi-hid ynghylch peryglon ar y ffyrdd yn ystod dyddiau a nosweithiau hirion yr haf. Fodd bynnag, gall peidio â gwisgo gwregys neu gael 'ond un ddiod' wneud yr un faint o niwed yn yr haf ag y gall ar hyd gweddill y flwyddyn.

Yn ystod yr haf, mae angen i chi barhau i fod yn ymwybodol o'ch ymddygiad ar y ffyrdd a'i wella, er lles eich câr ac eraill, naill ai drwy arafu, peidio â goddiweddyd, diffodd eich ffôn symudol, sicrhau gwregys o gwmpas eich plant mewn seddau car plant a pheidio yfed alcohol cyn cychwyn gyrru.

Am fwy o gyngor diogelwch tân a diogelwch ar y ffyrdd ymwelwch â www.freesmokealarm.co.uk  

Mwynhewch haf llawn hwyl, ond diogel!

 

 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 23/7/2012
SWFRS