Mae amrywiaeth o rolau Staff Cymorth cyffrous a heriol ar gael ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae gennym bedair Cyfarwyddiaeth y mae eu manylion isod:
Cyfarwyddiaeth : Gwasanaethau CorfforaetholAdrannau : Cyfryngau a Chyfathrebu, Yr Iaith Gymraeg, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Prosiectau Mawr ac Eiddo, Cymorth Busnes, Cyllid a Chaffael
Cyfarwyddiaeth : Gwasanaethau PoblAdrannau : Adnoddau Dynol, Iechyd Galwedigaethol, Hyfforddiant
Cyfarwyddiaeth : Gwasanaethau TechnegolAdrannau : Fflyd a Pheirianneg, Rheoli Risg Gweithredol, TGCh
Cyfarwyddiaeth: Darparu GwasanaethAdrannau: Cynllunio Perfformiad, Lleihau Risg, yr Ystafell Rheoli Tân, Gweithrediadau
Mae rolau’n cynnwys personél gweinyddol, adnoddau dynol a gweithwyr cyllid, technegwyr TGCh, arbenigwyr cyfryngau a marchnata, gweithwyr proffesiynol dylunio graffig, technegwyr cerbydau modur, personél diogelwch cymunedol, rheolwyr prosiectau a llawer mwy.
Mae ein cymdeithas hefyd yn newid ac yn dod yn fwy diwylliannol amrywiol. Mae’n bwysig fod y Gwasanaeth Tân yn deall ac yn cynrychioli’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Mae angen i’r tîm Staff Cymorth gynrychioli pob agwedd o’r gymdeithas ac felly mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned.
• Telerau ac Amodau Gwasanaeth - Staff Cymorth
Cliciwch yma am swyddi gwag cyfredol
Manylion Cyswllt
E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk
Cyfeiriad: Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Forest ViewLLANTRISANTCF72 8LX