Recriwtio Rheoli Tân
Newidiwyd cryn lawer ar rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub dros y pum mlynedd diwethaf, a bu gorfod newid rôl y Gweithredydd Rheoli Tân i adlewyrchu’r gofynion newydd ar y Gwasanaeth.
Bellach nid yw Gweithredwyr Rheoli Tân ddim ond yn ateb galwadau brys a rheoli symudiadau cerbydau tân, ond maent yn chwarae rhan weithredol yn dod â digwyddiadau i derfyn llwyddiannus drwy ddefnyddio technegau arbenigol i drin a thrafod galwadau. Rhaid i Weithredwyr Rheoli Tân feddu’r gallu i flaenoriaethu tasgau ac adnabod y rhai sydd â’r lefel uchaf o frys.
Mae’r tasgau hyn yn cynnwys prosesu galwadau brys am gymorth, cyfarwyddo cerbydau tân a swyddogion, trosglwyddo a derbyn negeseuon dros y radio, ymateb i geisiadau eu swyddog â gofal, ateb llinellau ffôn gweinyddol, cadw golwg ar argaeledd adnoddau brys, gwneud tasgau gweinyddol cyffredin a chysylltu ag awdurdodau lleol a gwasanaethau brys eraill. Pan fo angen, mae’n rhaid i weithredwyr rheoli tân roi cyngor achub-bywyd i alwyr sydd wedi eu dal mewn adeiladau sydd ar dân ac efallai yn ofnus ac mewn panig.
Croesewir ymwelwyr o’r gymuned leol i mewn i’r ystafell rheolaeth brys, a bydd y Gweithredwyr Rheoli Tân yn cymryd rôl addysgwyr, gan addysgu, ymhlith pethau eraill, sut a phryd i wneud galwad brys 999 i’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
I gyflawni hyn, mae angen i weithredwyr rheoli tân ddeall a chynrychioli’r gymuned mae ef neu hi’n ei gwasanaethu. Mae cymdeithas yn newid byth a beunydd ac yn dod yn fwy a mwy aml ddiwylliannol, ac felly, er mwyn i staff rheoli fodern allu cyflawni’r rôl o gyfathrebu â’r gymdeithas honno rhaid iddynt gynrychioli pob diwylliant a rhyw ac felly, mae’n dîm amrywiol ymroddedig i ddiogelu’r cyhoedd rhag tanau ymhob ystyr.
Manylion Cyswllt
E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk
Cyfeiriad: Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Forest ViewLLANTRISANTCF72 8LX