Rôl yr Ymladdwyr Tân System Dyletswydd Rhan Amser 

Mae’r System Dyletswydd Rhan Amser yn cynnwys Ymladdwyr Tân ar alwad sy’n byw a/neu yn gweithio yng nghymuned leol yr Orsaf Dân Rhan Amser. Maent yn unigolion a allai fod eisoes â gwaith llawn amser neu ran amser neu ddim yn gweithio (er enghraifft, rhieni sy’n aros adref).

Mae Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser yn cyflawni’r un rôl ag Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Llawn Amser ac yn darparu’r un gwasanaeth ar y rheng flaen. Mae gan yr unigolion sy’n gwasanaethu fel Ymladdwyr Tân Rhan Amser amrywiaeth o gefndiroedd yn cynnwys adeiladwyr, ffermwyr, gweithwyr gweinyddol a rhieni sy’n aros adref.

Ar hyn o bryd, mae prinder pobl sy’n ymateb ‘ar alwad’, yn enwedig mewn trefi bychan a chymunedau gwledig lle mae llai o bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal. Mae’r System Dyletswydd Rhan Amser yn rhan bwysig o’r gymuned leol a gwasanaethau lleol.

Rhaid i Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser fyw neu weithio ger yr Orsaf Dân Rhan Amser a’u bod yn gallu cyrraedd yr Orsaf o fewn pum munud i dderbyn galwad. Mae rhai gweithwyr yn hyblyg ac yn caniatáu i Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser adael y gwaith i fynd i ddigwyddiadau a hyfforddiant (mae mwy o wybodaeth am y buddion i sefydliad sy’n cyflogi Ymladdwr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser ar gael drwy ddefnyddio’r tabiau ar ochr chwith y dudalen hon). Mae hefyd croeso i unigolion sy’n hunan gyflogwyr sy’n gweithio yn yr ardal leol i wneud cais i ddod yn Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser.

Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn brin o bobl i gyflawni rolau Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser, yn enwedig yn ystod y dydd yn ystod yr wythnos. Mae’r Orsaf yn disgwyl derbyn dau neu dri galwad yr wythnos ond ni fydd angen i unigolion fynd i bob galwad (yn ddibynnol ar nifer yr Ymladdwyr Tân ar ddyletswydd).

Caiff Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser eu recriwtio a’u dethol yn yr un ffordd ag Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Llawn Amser, yn dilyn y broses Dethol Ymladdwyr Tân Cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am y System Dyletswydd Rhan Amser a’r broses ddethol yn y ‘Pecyn Gwybodaeth System Dyletswydd Rhan Amser’ (gweler y ddolen ar yr ochr dde).

Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth – Ymladdwyr Tân Rhan Amser

             Manylion Cyswllt


Tîm Recriwtio ac Asesu
Ffôn: 01443 232200 (Oriau Gwaith Arferol) neu 0800 0283615 (Rhif Ffôn 24 awr)

E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk

Cyfeiriad:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

           Gwybodaeth Berthnasol

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 30/9/2011
SWFRS