SWFRS

Ymladdwr Tân/Ymladdwraig Tân Amser Llawn 

Ymladdwr Tân/Ymladdwraig Tân Amser Llawn

Mae rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi newid yn sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae rôl yr Ymladdwr Tân/Ymladdwraig Dân yn y gymuned wedi gorfod newid i adlewyrchu’r gofynion newydd a osodir ar y Gwasanaeth. Nid yw Ymladdwyr Tân ‘Ar eu Newydd Wedd’ yn unigolyn sydd ond yn canolbwyntio ar y rôl a welwyd yn draddodiadol o fynd i Ddigwyddiadau Argyfwng ac ar yr anghenion corfforol i wneud hynny. Bellach, mae gofyn i Ymladdwyr Tân fod hyd yn oed yn fwy hyblyg na chynt.

Mae Ymladdwyr Tân ar eu newydd wedd yn dal i gyflawni’r rôl draddodiadol o ddelio â thanau mewn bob math o adeiladau, ac amrywiaeth o Alwadau Gwasanaeth Arbennig, sy’n cynnwys digwyddiadau megis pobl sy’n methu rhyddhau eu hunain mewn damweiniau ffordd, argyfyngau cemegol, llifogydd a thrychinebau naturiol eraill. Ond, mae Ymladdwyr Tân ar eu newydd wedd hefyd yn gallu troi o’u rôl adweithiol i rôl mwy ataliol sy’n cynnwys addysgu ein cymunedau am beryglon tanau.

Mae hyn yn gofyn am y gallu i gyfathrebu â phob grŵp sydd mewn perygl yn y gymuned, yn enwedig yr henoed a phlant ysgol, gan gynnal cyflwyniadau a sgyrsiau ac ymweld â chartrefi yn y gymuned i siarad â thrigolion am sut y gallant gynllunio i osgoi, ac yna goroesi, tân os bydd yn digwydd.  Mewn nifer o achosion, bydd hyn yn cynnwys gosod larymau tân ar ran y bobl hynny er mwy sicrhau eu bod yn ddiogel.

 I gyflawni hyn, mae angen i Ymladdwyr Tân ar eu newydd wedd ddeall a chynrychioli’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Mae’r gymdeithas yn newid yn gyson, ac yn dod yn fwy amlddiwylliannol ac, felly, rhaid i’r tîm ymladd tân modern gynrychioli pob diwylliant a rhyw er mwyn gallu cyflawni ei rôl o gyfathrebu â’r gymuned honno. Mae’n dîm amrywiol felly, wedi ymrwymo i ddiogelu’r cyhoedd rhag tân ar bob agwedd.

Recriwtio Llawn Amser

Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn recriwtio Ymladdwyr Tân i’r System Dyletswydd Llawn Amser ar hyn o bryd.  Mae’n debyg y bydd yr Ymgyrch Recriwtio nesaf yn dechrau yn 2010/2011. Gwyliwch y dudalen hon am gyhoeddiadau pellach. Yn y cyfamser, os hoffech gael eich ystyried am rôl Ymladdwr Tân/Ymladdwraig Dân ar y System Dyletswydd Llawn Amser, awgrymwn eich bod yn dilyn y cysylltiadau isod i gael rhagor o gwybodaeth a fydd o help i chi wrth baratoi cais yn y dyfodol.

Pecyn Gwybodaeth i Ymladdwr Tân

Rhaglen Ffitrwydd Baratoadol

 

Manylion Cyswllt

Recriwtio Gyrfaoedd Llawn Amser
Ffôn:  01443 232200

E-Bost:  personnel@southwales-fire.gov.uk

Cyfeiriad:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
Llantrisant
Pont y- clun

CF72 8LX

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 18/2/2010