Gyrfaoedd a wyddi gwag 

Croeso i dudalennau recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, lle gallwch gael gwybodaeth yn ymwneud â swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd. Mae yma hefyd amrywiaeth o lyfrynnau canllaw i’ch cynorthwyo drwy’r broses recriwtio.

Os ydych yn ystyried gwneud am un o’n swyddi, efallai y byddai diddordeb gennych i ddysgu mwy am Delerau ac Amodau’r Gwasanaeth. Defnyddiwch y dolenni isod i gael mynediad at y wybodaeth hon.

Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth – Staff Cymorth
Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth – Staff yr Ystafell Rheoli Tân
Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth – Ymladdwyr Tân Llawn Amser
Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth – Ymladdwyr Tân Rhan Amser

Diweddariad Recriwtio System Dyletswydd Llawn Amser
Nid ydym yn recriwtio Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Llawn Amser ar hyn o bryd. Disgwylir y bydd yr ymgyrch recriwtio nesaf yn cael ei chynnal yn 2012. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru os bydd unrhyw newidiadau. Os hoffech wybod rhagor am rôl Ymladdwyr Tân Llawn Amser, defnyddiwch y tabiau ar ochr chwith y dudalen hon.

Diweddariad Recriwtio System Dyletswydd Rhan Amser
Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag ar gyfer Ymladdwyr Tân ar y System Dyletswydd Rhan Amser mewn rhai gorsafoedd. Os ydych yn byw o fewn 5 munud o amser teithio i Orsaf Rhan Amser a hoffech ragor o wybodaeth, Cliciwch yma i gyrchu gwybodaeth a Llyfryn Cyngor i Ymgeiswyr.

Diweddariad Recriwtio'r Ystafell Rheoli Tân
Nid ydym yn recriwtio Gweithredwyr yr Ystafell Rheoli Tân ar hyn o bryd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru os bydd unrhyw newidiadau. Os hoffech wybod rhagor am rôl Gweithredwyr yr Ystafell Rheoli Tân, defnyddiwch y tabiau ar ochr chwith y dudalen hon.

Diweddariad Recriwtio Staff Cymorth
Cliciwch yma i ddysgu mwy am swyddogaethau y Staff Cynnal. 

Mae GTADC yn credu bod gwerth gwirioneddol mewn cael gweithlu amrywiol ac yn dymuno ysgogi yn rhagweithiol ymgeiswyr o bob sector y gymuned i ymgeisio.

             Manylion Cyswllt


Tîm Recriwtio ac Asesu
Ffôn: 01443 232200 (Oriau Gwaith Arferol) neu 0800 0283615 (Rhif Ffôn 24 awr)

E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk

Cyfeiriad:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 30/9/2011
SWFRS