Penodiadau System Dyletswydd Llawn Amser - Telerau ac Amodau 

Cyflog
Caiff penodiad ei gynnig o fewn y band cyflog cytûn ar gyfer y rôl. Cewch eich penodi ar y gyfradd cyflog datblygiad ac wedi i chi ddatblygu’n foddhaol byddwch yn derbyn y gyfradd cyflog cymwys. Caiff cyflogau eu talu’n fisol drwy Drosglwyddiad Arian Parod i’r Banc yn Uniongyrchol ar y pymthegfed o’r mis.

Mae’r Gyfradd Cyflog yn amrywio o £21,157 i £53,934
 
Oriau Gwaith
Mae wythnos lawn o waith yn 42 awr yr wythnos, sy’n cael ei weithio yn unol â’r patrwm sifft priodol.

Cyfnod Prawf
Rhaid i weithwyr newydd gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn foddhaol. Yn ystod y cyfnod hwn bydd disgwyl i chi sefydlu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.

Gwyliau
Mae'r hawliau gwyliau blynyddol fel a ganlyn:

Gradd A 25 dydd
Gradd B 5 dydd

Yn ychwanegol i wyliau blynyddol mae gan staff Llawn Amser yr hawl i wyth dydd o wyliau statudol yn flynyddol. Mae hawliau gwyliau ar gyfer gweithwyr rhan amser yn cael ei gyfrifo pro-rata.

Pensiwn
Mae pob gweithiwr newydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yng Nghynllun Pensiwn yr Ymladdwyr Tân (Newydd), sy’n darparu buddion salwch ac ymddeol. Gall gweithwyr ddewis peidio ag ymuno â’r cynllun, ac mae manylion llawn ar gael adeg eu penodi.

Aelodaeth o Undebau Llafur
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi’r system bargeinio cyfunol yn llawn, yn credu yn yr egwyddor o ddatrys problemau cysylltiadau diwydiannol drwy drafodaeth a chytundeb, ac yn cydnabod hawliau unigolion i berthyn i undebau llafur priodol.
 
Maes Parcio
Mae llefydd parcio ar gael ym mhob un o safleoedd y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Lluniaeth
Mae ffreutur yn ein Pencadlys.

Iwnifform
Bydd pob gweithiwr yn derbyn iwnifform ac offer amddiffyn personol priodol a chymeradwy er mwyn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyfleusterau Campfa
Mae gennym gyfleusterau campfa am ddim yn y rhan fwyaf o’n lleoliadau.

             Manylion Cyswllt


Tîm Recriwtio ac Asesu
Ffôn: 01443 232200 (Oriau Gwaith Arferol)

E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk

Cyfeiriad:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 29/9/2011
SWFRS