CyflogCaiff penodiad ei gynnig o fewn y band cyflog cytûn ar gyfer y rôl. Cewch eich penodi ar y gyfradd cyflog datblygiad ac wedi i chi ddatblygu’n foddhaol byddwch yn derbyn y gyfradd cyflog cymwys. Caiff cyflogau eu talu’n fisol drwy Drosglwyddiad Arian Parod i’r Banc yn Uniongyrchol ar y pymthegfed o’r mis.Mae’r Gyfradd Cyflog yn amrywio o £3,622.50 i £15,390.00 Oriau GwaithMae wythnos lawn o waith yn 42 i 84 awr yr wythnos, sy’n cynnwys cyfuniad o sesiynau ymarfer, Diogelwch Cymunedol a bod ar alwad. Cyfnod PrawfRhaid i weithwyr newydd gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn foddhaol. Yn ystod y cyfnod hwn bydd disgwyl i chi sefydlu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.GwyliauMae hawliau gwyliau blynyddol o hyd at bum wythnos.Yn ychwanegol i’r gwyliau blynyddol mae gan staff Rhan Amser yr hawl i wyth dydd o wyliau statudol yn flynyddol.PensiwnMae pob gweithiwr newydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yng Nghynllun Pensiwn yr Ymladdwyr Tân (Newydd), sy’n darparu buddion salwch ac ymddeol. Gall gweithwyr ddewis peidio ag ymuno â’r cynllun, ac mae manylion llawn ar gael adeg eu penodi.Aelodaeth o Undebau LlafurMae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi’r system bargeinio cyfunol yn llawn, yn credu yn yr egwyddor o ddatrys problemau cysylltiadau diwydiannol drwy drafodaeth a chytundeb, ac yn cydnabod hawliau unigolion i berthyn i undebau llafur priodol. Maes ParcioMae llefydd parcio ar gael ym mhob un o safleoedd y Gwasanaeth Tân ac Achub.Iwnifform Bydd pob gweithiwr yn derbyn iwnifform ac offer amddiffyn personol priodol a chymeradwy er mwyn cyflawni eu dyletswyddau.Cyfleusterau CampfaMae gennym gyfleusterau campfa am ddim yn y rhan fwyaf o’n lleoliadau.
Manylion Cyswllt
E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk
Cyfeiriad: Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Forest ViewLLANTRISANTCF72 8LX