CyflogCaiff penodiad ei gynnig o fewn y band cyflog cytûn ar gyfer y rôl. Cewch eich penodi ar gyfradd cyflog datblygiad ac wedi i chi ddatblygu’n foddhaol byddwch yn derbyn y gyfradd cyflog cymwys. Os ydych wedi gwneud cais am swydd rhan amser bydd eich cyflog yn pro-rata, hynny yw, byddwch yn derbyn y gyfran o’r cyflog llawn sy’n cyfateb i’r oriau yr ydych yn gweithio. Caiff cyflogau eu talu’n fisol drwy Drosglwyddiad Arian Parod i’r Banc yn Uniongyrchol ar y pymthegfed o’r mis.
Mae’r Gyfradd Cyflog yn amrywio o £20,099 i £44,108
Oriau GwaithMae wythnos lawn o waith yn 42 awr yr wythnos, sy’n cael ei weithio yn unol â’r patrwm sifft priodol.
Rhannu swyddMae rhagor o wybodaeth ar yr amodau sy’n berthnasol i’r Cynllun Rhannu Swydd yn yr Ystafell Rheoli Tân ar gael ar gais.
Cyfnod PrawfRhaid i weithwyr newydd gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn foddhaol. Yn ystod y cyfnod hwn bydd disgwyl i chi sefydlu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.
GwyliauMae'r hawliau gwyliau blynyddol fel a ganlyn:
Gradd A 25 dydd Gradd B 5 dydd
Yn ychwanegol i wyliau blynyddol mae gan staff yr Ystafell Rheoli Tân yr hawl i wyth dydd o wyliau statudol yn flynyddol. Mae hawliau gwyliau ar gyfer gweithwyr rhan amser yn cael ei gyfrifo pro-rata.
PensiwnMae pob gweithiwr newydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol, sy’n darparu buddion salwch ac ymddeol. Gall gweithwyr ddewis peidio ag ymuno â’r cynllun, ac mae manylion llawn ar gael adeg eu penodi.
Aelodaeth o Undebau LlafurMae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi’r system bargeinio cyfunol yn llawn, yn credu yn yr egwyddor o ddatrys problemau cysylltiadau diwydiannol drwy drafodaeth a chytundeb, ac yn cydnabod hawliau unigolion i berthyn i undebau llafur priodol. Maes ParcioMae llefydd parcio ar gael ym mhob un o safleoedd y Gwasanaeth Tân ac Achub.
LluniaethMae ffreutur yn ein Pencadlys.
Iwnifform Bydd pob gweithiwr yn derbyn iwnifform briodol a chymeradwy er mwyn cyflawni eu dyletswyddau.
Cyfleusterau CampfaMae gennym gyfleusterau campfa am ddim yn y rhan fwyaf o’n lleoliadau.
Manylion Cyswllt
E-Bost: Personél@decymru-tan.gov.uk
Cyfeiriad: Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Forest ViewLLANTRISANTCF72 8LX