Rhyddid Gwybodaeth 

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac i gyhoeddi gwybodaeth yn unol â’r cynllun.

O 1 Ionawr 2009 bydd yna un cynllun enghreifftiol cymeradwy y bydd rhaid i bob awdurdod ei fabwysiadu. Fel rhan o ofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynhyrchu Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth Enghreifftiol newydd sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus i gyhoeddi cynllun cyhoeddi.

Un o amcanion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw y dylai awdurdodau cyhoeddus fod yn eglur ac yn rhagweithiol ynghylch y wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi. Er mwyn cyflawni hyn rhaid iddynt lunio cynllun cyhoeddi a fydd yn pennu:

  • y mathau o wybodaeth y maent yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi;
  • y ffurf y caiff y wybodaeth ei chyhoeddi; ac
  • a yw’r wybodaeth ar gael am ddim neu am dâl.

Rhaid i ni ryddhau’r wybodaeth yn y modd a gafodd ei ddisgrifio yn ein cynllun cyhoeddi.

Pwrpas y cynllun cyhoeddi yw sicrhau bod swm sylweddol o wybodaeth ar gael yn rheolaidd, heb orfod gwneud cais penodol. Bwriad cynlluniau cyhoeddi yw annog sefydliadau i fynd ati i gyhoeddi mwy o wybodaeth a datblygu mwy o ddiwylliant o fod yn agored. Mae’r cynllun yn dod â’r gwahanol fathau o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd at ei gilydd mewn ffordd strwythuredig ac yn rhoi manylion am sut i gael gafael ar y cyfan. Y nod yw arbed amser ac ymdrech i chi.

Mae cynllun cyhoeddi Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cynnwys gwybodaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi ac sy’n cael ei dal gan yr Awdurdod Tân, neu wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol.

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y cynllun ar gael mewn nifer o ffyrdd ond nid yw o reidrwydd ar gael ym mhob un o’r ffyrdd hyn. Yn gyffredinol, mae gwybodaeth ar gael drwy ei lawrlwytho o’n gwefan, drwy e-bost, drwy’r post a thrwy archwiliad personol am ddim, neu am gost fechan.

Bydd y cynllun cyhoeddi yn nodi a yw’r wybodaeth ar gael am ddim neu a fyddai angen talu tâl.

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn nodi’r eithriadau a fydd mewn rhai amgylchiadau yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ymatal rhag rhyddhau gwybodaeth wedi iddynt gael cais amdani. Ni fydd rhywfaint o’r wybodaeth sydd yn ein meddiant yn cael ei chyhoeddi am resymau’n ymwneud â diogelu data: er enghraifft, nid oes rhaid rhyddhau gwybodaeth os byddai gwneud hynny’n peryglu diogelwch cenedlaethol neu’r broses o weithredu’r gyfraith (cofnodion llys).

Os ydych am wneud cais am wybodaeth nad yw ar gael o fewn ein cynllun cyhoeddi ar hyn o bryd, cewch wneud cais ar wahân a byddwn yn delio ag ef cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn darparu gwybodaeth yn y rhan fwyaf o ieithoedd ar gais. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth mewn ffurfiau gwahanol ar gyfer pobl ag anableddau ar gais

Noder, gellir cael mynediad ar wybodaeth amgylcheddol drwy Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Gallwch gael mynediad at wybodaeth amdanoch chi eich hun drwy’r Ddeddf Diogelu Data 1998. Ni ellir rhyddhau gwybodaeth am bobl eraill, byddai gwneud hynny’n torri amodau’r un Ddeddf.

                 Manylion Cyswllt

 

Cyfeiriad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Ffôn:  01443 232000
Ffacs: 01443 232180
E-Bost:
GTDC@decymru-tan.gov.uk

Cwnion

Os hoffech wneud sylw am y cynllun cyhoeddi hwn neu os hoffech gael rhagor o gymorth neu wneud cwyn, yna dylech gysylltu â’r Rheolwr Cymorth a Gwybodaeth Busnes yn y lle cyntaf, sef y swyddog cyfrifol dros Ryddid Gwybodaeth, fe welwch y cyfeiriad uchod.

Os nad ydych yn hapus â’r ymateb y cawsoch, cewch wneud cwyn ffurfiol i’r Comisiynydd Gwybodaeth, a fydd yn penderfynu a gafodd eich cais ei drin yn gywir.

The Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
WILMSLOW
Cheshire
SK9 5AF

Rhif Ffôn: 01625 54 57 45
Ffacs: 01625 524510
E-bost:mail@ico.gsi.gov.uk
Wefan:
www.ico.gov.uk

           Gwybodaeth Berthnasol

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 28/9/2011
SWFRS