Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cwmpasu ardal 2,712km2 o Gas-gwent yn y dwyrain i Borthcawl yn y gorllewin, ac o Ferthyr Tudful yn y gogledd i Aber yr Hafren yn y de. Mae gan yr ardal dirwedd amrywiol, o’r Cymoedd yn y gogledd a’r gorllewin i gefn gwlad agored y dwyrain. Mae yna ddwy ddinas, Caerdydd a Chasnewydd, yn y de.
Caerdydd yw prif ddinas Cymru a chanolfan llywodraeth Cymru. Mae 500,000 o’r 1.4 miliwn o ddinasyddion yn byw yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Mae gweddill y boblogaeth (900,000) yn byw’n bennaf yn y canol ac yn y gogledd ac, i raddau llai, yn nwyrain yr ardal.
Gwasanaethir yr ardal gan 10 awdurdod unedol. Mae’r 24 cynghorydd lleol sy’n ffurfio Awdurdod Tân De Cymru yn dod o’r sefydliadau llywodraeth leol hyn.
Mae gan Dde Cymru y cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru ac mae poblogaeth ethnig o 2.12% yno. Mae’r rhan fwyaf o’r dinasyddion o’r grwpiau ethnig hyn wedi’u crynhoi yng Nghasnewydd a Chaerdydd ac felly maen nhw’n ffurfio 7.5% o’r boblogaeth gyfan yn y ddwy ddinas hon. Mae’r gwasanaeth yn datblygu ffyrdd newydd o gyrraedd y cymunedau hyn er mwyn sicrhau bod eu diogelwch a’u lles mor sicr ag y gallwn ni ei wneud.
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LLANTRISANTCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000Ffacs: 01443 232180E-Bost: GTDC@decymru-tan.gov.uk