Mae Gorsaf Dân yr Eglwys Newydd yn un o bedair ar bymtheg o orsafoedd tân llawn amser yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac yn gwasanaethu’r pentref mawr yng Nghaerdydd, sef yr Eglwys Newydd, a’r cymunedau cyfagos, sef Rhiwbeina, y Mynydd Bychan, Draenen Pen-y-graig, Llanisien, Gogledd Llandâf, Tongwynlais a Radur.
Ein hymgyrch yw gwneud y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw. Y boblogaeth amcangyfrifedig mae Gorsaf Dân yr Eglwys Newydd yn gwasanaethu yw oddeutu 80,000 yn cwmpasu ardal o 6,000 hectar. Oherwydd ein teclyn arbenigol y “Tendar Ewyn”, mae’n ofynnol hefyd i ni wasanaethu ardal gyfan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru pan fo angen.
Mae Gorsaf Dân yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd, yn agos at yr A470 prysur, yr A48 a’r M4, sef y prif heolydd sy’n arwain i mewn i ddinas Caerdydd.
Yn ogystal â’r ardaloedd preswyl mawr niferus, mae Gorsaf Dân yr Eglwys Newydd yn gwasanaethu ysbytai mawr, gan gynnwys Ysbyty Prifysgol Cymru, yr Eglwys Newydd a Felindre, nifer o archfarchnadoedd, blociau llety myfyrwyr a sawl ystâd ddiwydiannol.
Fel gorsaf gymunedol, mae Gorsaf Dân yr Eglwys Newydd yn falch o gael polisi drws agored â’i chymuned gyfagos, ac mae pobl o bob oed yn ymweld â hi’n rheolaidd a chael eu diddanu yno.
Mae gan Orsaf Dân yr Eglwys Newydd 29 o staff lifrai, sy’n cynnwys 4 gwylfa o 7 (coch, glas, gwyrdd, gwyn) a rheolwr gorsaf.