Mae Gorsaf Dân Tonypandy yn gwasanaethu tref hanesyddol Tonypandy yng Nghwm Rhondda Fawr a thri ar ddeg o bentrefi eraill gan gynnwys Pentre, Porth, Trebanog a Phenrhiwfer. Amcangyfrifir bod poblogaeth ardal yr Orsaf yn 51,000. Mae’r Orsaf hefyd yn darparu gwarchodaeth dân eilaidd i ardaloedd Gorsafoedd rhan amser Treorci, Porth, Gilfach Goch a Glyn Rhedynog.
Mae Gorsaf Dân Tonypandy yn gwasanaethu nifer fawr o eiddo preswyl, yn gartrefi traddodiadol ac adeiladau newydd fel ei gilydd; canolfannau manwerthu; a nifer o ardaloedd diwydiannol a ddatblygwyd ar safleoedd cae brown a ddatblygwyd ar hyd y cwm. Mae ardal yr Orsaf hefyd yn cynnwys llawer o ardaloedd o dir Menter Coedwigaeth a blannwyd yn ddwys ac eangderau o borfa a thir gwaun.
Mae gweithwyr Gorsaf Tonypandy wrthi’n gweithio’n galed mewn ymdrech i wneud ein Cymuned yn lle gwell a mwy diogel i fyw ynddo. Wrth weithio gyda Grwpiau Cymunedol a Grwpiau Partneriaeth lleol, ein gobaith yw llwyddo i leihau nifer y tanau sy’n digwydd, ac o ganlyniad lleihau nifer y marwolaethau ac anafiadau o achos tân, yn ogystal â lleihau’r difrod a achosir i eiddo a’r amgylchedd.
Os bydd arnoch angen unrhyw gyngor ynglŷn â diogelwch tân, neu os ydych yn grŵp cymunedol lleol sy’n teimlo y byddech yn elwa o’n hadnoddau neu ein gwasanaethau, yna cysylltwch â Phennaeth yr Orsaf, Steve Doel ar 01443 232880 neu 232881.
Hoffwn wahodd disgyblion Coleg Cymunedol Tonypandy i gynllunio logo neu slogan a fydd yn dod yn ‘frand ymbarél’ i’r prosiect a bydd yn cael ei ddefnyddio ar holl ddeunyddiau’r prosiect ac wrth gyfathrebu gan gynnwys y wefan, taflenni, papurau newydd, arosfeydd bws a hysbysfyrddau - gan ei wneud yn hynod weledol ar draws Tonypandy.
[mwy]
Rydym yn darparu Gwiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref yn rhad ac am ddim a darganfyddwyr mwg ar gyfer holl breswylfeydd y gymuned. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 169 1234, neu cysylltwch â’r orsaf i drefnu’r ymweliad - gallai achub eich bywyd!
Parhau i gefnogi prosiectau “Tir Llosg” a “Thân Gwyllt” yn y Rhondda, gan gynnwys gwaith partneriaeth gyda’r heddlu, Grwpiau Cymunedol a Mentrau Coedwigaeth.
Mae Grŵp Ymladdwyr Tân Ifanc Tonypandy yn cyfarfod bob nos Iau yn yr Orsaf.
Cynllun Gwobr Dug Caeredin.
Parhau i ddatblygu neges gref yn erbyn llosgi bwriadol gyda’r cyfryngau a gweithio gyda Grwpiau Partneriaeth a Grwpiau Cymunedol lleol.