Mae Gorsaf Dân Y Rhath yn gwasanaethu’r cymunedau i’r dwyrain o Gaerdydd, gan gynnwys Cyncoed, Pentwyn, Pen-y-lan, rhannau o Sblot, Tremorfa, Pengam, Llanedern, Rhymni a Trowbridge.
Yn ogystal â chynnwys ardal breswyl helaeth, mae Gorsaf Dân Gymunedol y Rhath hefyd yn gwasanaethu ardal y Dociau, nifer o unedau manwerthu mawr, dau safle Teithwyr a Sipsiwn ac amrywiaeth o lety myfyrwyr gan gynnwys neuaddau preswyl a thai preswylio lluosog. Mae’r Orsaf hefyd yn ymateb i alwadau mewn nifer o westai, ysbyty BUPA Pentwyn a nifer o adeiladau gofal preswyl yn yr ardal. Y Rhath yw un o orsafoedd pwmpio unigol prysuraf y DU.
Ymatebodd eich Criwiau Tân yng Ngorsaf Dân Gymunedol Y Rhath i 2000 o alwadau yn y cyfnod Ebrill 2006 - Ebrill 2007, yn amrywio o danau gwair, Gwrthdrawiadau Trafnidiaeth Ffordd, i danau eiddo domestig. Sicrhaodd ymroddiad eich criwiau lleol fod pob achos yn cael ei drin yn broffesiynol bob tro.
Yn ogystal ag ymateb i alwadau, ymwelodd eich ymladdwyr tân lleol â 540 o gartrefi, lle gosodwyd larymau mwg yn rhad ac am ddim a rhoddwyd cyngor i aelodau yn ein cymuned. Ymwelodd eich Ymladdwyr Tân â 35 o Ysgolion yn y gymuned yn addysgu plant ynglŷn â pheryglon tân. Bydd gweithwyr Gorsaf Dân ac Achub y Rhath yn gweithio gyda’n cymunedau i sicrhau bod gan bawb yr un mynediad i’n gwasanaeth addysg a larymau mwg am ddim, i sicrhau bod pawb yn ein cymunedau’n ddiogel rhag tân.
Eich Gorsaf leol Chi yw Gorsaf Dân Gymunedol y Rhath. Os bydd arnoch angen unrhyw gyngor diogelwch cymunedol, gosod larymau mwg yn eich cartref, neu os ydych yn grŵp cymunedol lleol a fyddai’n elwa o’n hadnoddau, yna cysylltwch â Phennaeth yr Orsaf, Fraser Ingram ar 01443 232971.
Rhan o dîm rheoli cymdogaeth De Ddwyrain Caerdydd a Dwyrain Caerdydd
29 o staff lifrai gan gynnwys 4 Gwylfa (Coch, Glas, Gwyrdd a Gwyn) o 7 Ymladdwr Tân amser llawn a Phennaeth Gorsaf sy’n gyfrifol am reolaeth gyffredinol yr orsaf.
Cafodd Gorsaf Dân y Rhath ei hailwampio mewn modd cynhwysfawr yn 2000 ac mae’n adolygu ei chyfleusterau’n barhaus er mwyn bodloni anghenion y gymuned y mae’n ei gwasanaethu yn well o hyd.