Hanes 

Sefydlwyd Gorsaf Dân Porthcawl ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ar ôl nifer o danau eiddo yn y dref a diffyg adnoddau i fynd i’r afael â nhw, cytunodd cynghorwyr lleol i ariannu sefydlu Gorsaf Dân Porthcawl.

Yn ystod y 1930au, cyflwynwyd yr injan dân gyntaf â motor. Hyd at y rhyfel, cadwyd yr injan dân mewn amryw leoliadau yn y dref.

Ar ddechrau’r rhyfel, sefydlwyd y Gwasanaethau Tân Cynorthwyol a Chenedlaethol. Trefnwyd bod adeiladau ar gael rhwng Stryd John a Stryd Mair (rhan o’r maes parcio erbyn hyn) a daeth hwn yn gartref i’r orsaf tan ym 1975. Ym 1957, ffurfiwyd Gorsaf Dân Morgannwg Ganol a daeth Porthcawl yn adnabyddus fel BB Porthcawl.

Un o’r galwadau allan mwyaf galarus i ymladdwyr tân Gorsaf Dân Porthcawl oedd adfer y 47 enaid a fu farw 23 Ebrill 1947, pan aeth y ‘Santampa’ ar y creigiau ar Bwynt y Sger ar bwys Porthcawl.Collodd 39 o’r criw ac wyth dyn bad achub o’r Mwmbwls eu bywydau ar y dydd tyngedfennol hwnnw.

Yn y 1950au a’r 60au roedd cyfyng hefyd o ymladdwyr tân cynorthwyol ym Mhorthcawl, yn cynnwys dynion ifanc yn bennaf yr oedd diddordeb gyda nhw mewn helpu eu cymuned. Rhoddodd hyn hwb i’r fflyd gerbydau o ddwy injan dân i dair, pedair weithiau, landrofer a chwpl o feiciau modur. Roedd y rhain i gyd yng ngorsaf Porthcawl. Chwaraeon nhw ran bwysig yn ystod trychineb ‘Aberfan’ ym 1966. Gwasgarodd y llywodraeth yr AFS ym 1968. Nid oedd yn anghyffredin gweld pwmp tendr dŵr yn dianc a duwies werdd yn gorfod ymateb i alwadau difrifol. Aeth rhai o ymladdwyr tân yr AFS yn eu blaen i fynd yn rhan amser.

Ariannwyd ac adeiladwyd yr orsaf dân ac ambiwlans gan Gyngor Sir Morgannwg ym 1974-75. Ffurfiwyd Gwasanaeth Tân Morgannwg Ganol yn sgil newidiadau gwleidyddol ym 1974 a bathodyn newydd ar wisgoedd ac injans tân.

Agorodd Gorsaf Porthcawl ei drysau newydd ym 1975. Roedd y cynllunwyr yn disgwyl i’r dref dyfu’n sylweddol a dyna’r rheswm am faint y safle.

Yn ystod y 1980au a 90au, cefnogodd criwiau Porthcawl gystadlaethau a chwisiau Dril Gwasanaeth Tân ac roedden nhw’n llwyddiannus iawn ar lawer o achlysuron. Cynrychiolon nhw Forgannwg Ganol mewn cystadlaethau yn Norfolk a Surrey.

Mae’r cyfeiriad at ymladdwr tân yn blaenori’r ddeddf lywodraeth sy’n dweud na ddylai teitl y swydd fod yn gysylltiedig â rhyw.

Mae gan orsaf Porthcawl un ysgol ddŵr weithredol a dihangfa pwmp 1954.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 07/9/2011
SWFRS