Mae Gorsaf Dân Pontypridd yn gwasanaethu tref Pontypridd a 18 o bentrefi amgylchynol llai gan gynnwys Pentre’r Eglwys, Ynysybwl a Rhydyfelin. Amcangyfrifir bod poblogaeth o 65,568 o fewn ardal yr Orsaf.
Mae Gorsaf Dân Pontypridd yn gwasanaethu amrywiaeth eang o ardaloedd diwydiannol, busnes a phreswyl, yn cynnwys Ystad Ddiwydiannol enfawr Trefforest a Phrifysgol Morgannwg, sy'n darparu ar gyfer 18,000 o fyfyrwyr, y mae 1,000 o'r rhain yn byw ar y campws. Hefyd mae yna nifer o brif ardaloedd adwerthu ar gyrion y dref.
49 o staff gwisg yn cynnwys 40 o Ymladdwyr Tân Amser Llawn yn gweithio mewn 4 Gwylfa (Coch, Gwyrdd, Glas, Gwyn) ac 13 o Ymladdwr Tân Rhan Amser. Mae gan y Pennaeth Gorsaf gyfrifoldeb cyffedinol dros yr orsaf.
Agorwyd yr Orsaf yn swyddogol gan Henadur y Sir W.H.Lee, cadeirydd y Cyngor Sir, ar 10 Gorffennaf 1965. Hefyd, bu'r Orsaf yn un o'r Pencadlysoedd Rhanbarthol Gwasanaeth Tân Sir Forgannwg.