Ceir Gorsaf Dân Pencoed ffordd ganol rhwng dwy ddinas fwyaf Cymru, sef Caerdydd ac Abertawe. Mae trefn Pencoed yn gorwedd yn Nyffryn Ewenni; mae wedi’i leoli o boptu i draffordd yr M4 wrth gyffordd 35. Mae Gorsaf Dân Pencoed yn gwasanaethu tref Pencoed, a phentrefi amgylchynol Heol-y-Cyw, Brynna, Llangrallo a’r draffordd rhwng cyffyrdd 34 a 36.
Poblogaeth Pencoed yw oddeutu 11,832 y mae oddeutu 5,066 yn breswyl a 277 ddim yn breswyl.
Mae Gorsaf Dân Pencoed yn gorwedd yn gyfochrog â’r prif gysylltiad rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe ac yn gwasanaethu ystod amrywiol o ddiwydiannau, busnesau ac eiddo preswyl. Mae’r ardaloedd preswyl yn amrywio o amlddeiliadaeth economaidd-gymdeithasol isel i dai mwy o faint yn yr ardal gyfoethocach.
Mae Gorsaf Dân Pencoed wedi ymgymryd â nifer o fentrau yn ei chymuned leol. Cyflwyniad diogelwch tân i blant cyfnod allweddol un a dau yn yr holl ysgolion lleol. Hefyd, cyflwyniad Asesiadau Bregusrwydd Llosgi Bwriadol mewn Ysgolion (SAVA) yn yr holl ysgolion, gan sicrhau diogelwch a lles yr holl blant yn y maes hwn. Mae’r criw hefyd yn cynnal Gwiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref yng nghartrefi preswylwyr lleol i sicrhau ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân yng nghartrefi’r ardal.
Mae gan Orsaf Dân Pencoed 16 aelod criw rhan amser, un Pennaeth Gorsaf a thri ymladdwr tân blaengar a deuddeg ymladdwr tân, mae dau bersonél arall yn yr orsaf, cynorthwyydd gweinyddol a pheiriannydd domestig.
Yn ogystal â bod yn ymladdwyr tân rhan amser, mae’r personél yng ngorsaf dân Pencoed yn gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn eu prif gyflogaeth, megis ymladdwyr tân i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ymladdwyr tân i Sain Tathan, Rockwool a llawer mwy.
Agorwyd Gorsaf Dân Pencoed ar 10 Hydref 1960 gan Mervyn Payne, Henadur Sir, aelod a Chyngadeirydd Pwyllgor Gwasanaeth Tân y Sir. Mae nifer aelodau criw cyfredol yr orsaf wedi dilyn yn olion traed eu tadau ac yn dilyn gyrfa yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.