Mae Gorsaf Dân New Inn yn gwasanaethu trefi Pont-y-pŵl, Griffithstown, Sebastopol a New Inn, a phentrefi Little Mill a Phenperlleni o’u hamgylch. Amcangyfrif poblogaeth yr ardal yw 33,600, dros ardal o tua 11,500 hectar.
Mae Gorsaf Dân New Inn Fire yn gwasanaethu amrywiaeth o eiddo diwydiannol, masnachol a phreswyl yn yr ardal, ynghyd â pharc adwerthu mawr, stadiwm chwaraeon a chanolfan hamdden.
Mae 29 o staff dilifrai yn New Inn, yn cynnwys 4 gwylfa o 7 (Coch, Glas, Gwyrdd, Gwyn) a’r Rheolwr Gorsaf Shaun Moody.
Agorwyd Gorsaf Dân New Inn ym 1952 o dan Frigâd Dân Trefynwy a dyma oedd Pencadlys, Ystafell Reoli a Storfa Gwasanaeth Tân Gwent hyd at fis Ebrill 1996 pan gyfunodd Gwasanaethau Tân Gwent, De Morgannwg a Morgannwg Ganol yn Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
O fewn y ddwy flynedd diwethaf, mae Pwmp Cyfaint Uchel wedi bod yn yr Orsaf y gellir ei ddefnyddio mewn digwyddiadau tân neu lifogydd mawr yn ne Cymru neu ledled y wlad. Yn haf 2007, anfonwyd Criwiau New Inn i lifogydd mawr yn ne Swydd Efrog a Swydd Loyw.