Mae Gorsaf Dân Gymunedol Malpas yn gwasanaethu rhan o ddinas Casnewydd mewn cydweithrediad â Maindee a Duffryn. Mae’n gwasanaethu ardaloedd Bettws a Malpas hyd at ffin Cwmbrân yn ogystal â phentrefi Caerleon, Rogerstone a Risga. Amcangyfrifir y boblogaeth i fod yn 76,000, dros ardal o 20 milltir sgwâr.
Mae’r Orsaf Dân Gymunedol wedi’i lleoli tuag at ogledd y ddinas gyda mynediad hawdd i’r holl rwydweithiau ffordd, gan gynnwys Cyffordd 26 yr M4, sef y brif ffordd trwy Dde Cymru.
Mae ardal Malpas yn cynnwys ystod amrywiol o ddiwydiannau a busnesau y byddech yn disgwyl gweld mewn dinas sy’n ffynnu, gan gynnwys nifer uchel o risgiau cysgu, cyswllt rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain, porthladd, ardaloedd preswyl, 2 ysbyty mawr gan gynnwys y Royal Gwent a St. Woolos ac ysbyty preifat llai, St. Josephs.
Yn ogystal, mae Malpas yn gwasanaethu canol dinas Casnewydd, sy’n cynnwys sefydliadau masnach a busnes eang. Mae’r prif ardaloedd diwydiannol wedi’u lleoli ar draws ardal yr orsaf, gan gynnwys risgiau mawr eraill sydd wedi’u lleoli y tu hwnt i ffiniau’r orsaf, lle mae Malpas yn orsaf allweddol wrth ystyried mynychaeth rhagderfynedig (PDA) y prif risgiau a risgiau diwydiannol llai sydd wedi’u lleoli ledled yr ardal sy’n amgylchynu’r orsaf.
Mae gan ganol y ddinas yr ystod arferol o eiddo masnachol yn ogystal â masnachwyr mawr eraill yn bresennol mewn lleoliadau eraill ar draws ardal yr orsaf, gyda buddsoddiad a datblygiadau sylweddol wedi’u cynllunio ar gyfer yr ardal. Mae’r ardaloedd preswyl yn amrywio o gartrefi socio-economaidd, aml-breswylwyr isel i gartrefi mwy o faint mewn ardaloedd cyfoethog.
Mae pedair o wardiau etholiadol Casnewydd yn cael eu cynnwys ar restr cant o wardiau mwyaf difreintiedig Cymru a chwe is-ward arall yn derbyn cymorth ariannol wrth raglen Cymunedau’n Gyntaf Llywodraeth y Cynulliad, gyda Bettws yn un o’r rheiny.
2,000 o ddigwyddiadau yw gweithgaredd amcangyfrifol blynyddol yr orsaf ar hyn o bryd gyda thanau preswyl damweiniol, signalau tân diangen (UFS), Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd a galwadau ffug yn amlwg ar yr agenda sydd angen eu lleihau.
Wrth wneud, rydym yn croesawu grwpiau a sefydliadau o fewn ein cymuned i rannu ein gwybodaeth a phrofiadau. Am fwy o wybodaeth, galwch 01443 232000 a gofynnwch am Orsaf Malpas neu cliciwch fan hyn i archebu Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref YN RHAD AC AM DDIM i’ch cartref.
Gorsaf Dân ac Achub Technegol Malpas yw’r Orsaf Dân gyntaf yng Nghymru i fod â phersonél Achub Technegol ar yr Wylfa. Hon fydd yr Orsaf gyntaf o fewn y DU gyda Gwylfa Peiriant Dŵr ag Ysgol Gymunedol yn gweithio ochr yn ochr â’r Wylfa Achub Technegol arbenigol. Mae’r ddwy Wylfa yn ymateb i ddigwyddiadau yn rôl-benodol ond yn cydlynu wrth weithio ar yr Orsaf.
Mae Gorsaf Dân ac Achub Technegol Malpas yn darparu gwasanaeth 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ganddi staff o 64 personél, sy’n cynnwys 28 personél ar draws pedair gwylfa o fewn yr adran Peiriant Dŵr ag Ysgol Gymunedol a 36 personél ar draws pedair gwylfa o fewn yr Uned Achub Technegol. Cyfrifoldeb Rheolwr yr Orsaf yw effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr orsaf a’i pherfformiad, mae’n cael ei gefnogi gan yr wyth wylfa a dau weithiwr ategol.
Mae’r pedair gwylfa Peiriant Dŵr ag Ysgol Gymunedol yn cynnwys y personél canlynol:
Mae’r pedair Uned Achub Technegol yn cynnwys y personél canlynol:
Mae peiriannau sydd wedi’u lleoli ym Malpas yn cynnwys:
Mae ymrwymiad gan bersonél Gorsaf Dân ac Achub Technegol Malpas tuag at Weledigaeth y sefydliad, sef ‘Gwneud ein cymunedau y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ag ymweld â hwy’, er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon byddant yn: