Mae Gorsaf Dân Maesteg yn gwasanaethu amrywiaeth eang o ddiwydiannau ysgafn a thrwm; ardaloedd busnes a phreswyl; nifer o barciau siopa; ac ardaloedd gwledig mawr a choedwigoedd o fewn ardal yr orsaf.
47 aelod o staff mewn lifrai sy’n rhan o 4 Gwylfa sy’n cynnwys 7 person (Coch, Gwyrdd, Glas, Gwyn), a Gwylfa System Dyletswydd Rhan Amser sy’n cynnwys 18 personél, Rheolwr Gorsaf a dau aelod o staff cynorthwyol heb lifrai
Agorwyd yr Orsaf wreiddiol ar 3 Rhagfyr 1974 gan y Cynghorydd V E Hart, ond o ganlyniad i’r gofynion cynyddol a osodwyd ar y Gwasanaeth Tân ac Achub yn weithredol ac o ran ei fentrau cymunedol, cynigiwyd y dylid adeiladu Gorsaf newydd.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar yr Orsaf Dân ac Ambiwlans ar y cyd gyntaf a godwyd yn bwrpasol yn Ne Cymru ar 24 Mawrth 2007 a daeth y gwaith i ben ar 12 Gorffennaf 2009. Mae’r Orsaf Dân/Ambiwlans Gymunedol orffenedig yn rhagorol, yn fodern ac yn effeithlon o ran egni.