Mae Gorsaf Dân Glyn Ebwy yn gwasanaethu trefi Glyn Ebwy a’r Cwm. Amcangyfrif y boblogaeth yw 28,000 o fewn ardal o tua 13 o filltiroedd sgwâr.
Mae Gorsaf Dân Glyn Ebwy yn gwasanaethu amrywiaeth o adeiladau diwydiannol, busnes a phreswyl yn ogystal â pharc adwerthu mawr ar safle Gŵyl Gerddi ym 1992, canolfan brysur y dref a nifer o archfarchnadoedd y tu allan i’r dref
21 o staff gwisg yn cynnwys 2 Gwylfa o 10 (Coch a Gwyn) a Phennaeth Gorsaf.
Agorwyd yr Orsaf ym 1974 fel Gorsaf â sifftau a chriw o Ymladdwyr Tân Rhan Amser. Yng nghanol yr 80au, newidiodd i'w statws Criwio Dydd presennol. Fodd bynnag, yn ein Cynllun Lleihau Risg cynnigir i'r Orsaf fynd yn ôl i'r System sifft Llawn Amser.