Mae Gorsaf Dân Y Bontfaen yn gwasanaethu tref farchnad Y Bontfaen a llawer o’r pentrefi o’i chwmpas yn cynnwys Llanfleiddan, Tregolwyn, St Mary Church, Llandŵ, Aberthin a Sant Hilari. Amcangyfrif poblogaeth ardal yr Orsaf yw 8,000 o bobl.
Mae llawer o’r ardal o tua 34 milltir sgwâr sy’n cael ei gwasanaethu gan Orsaf Dân Y Bontfaen wedi ei neilltuo ar gyfer ei ffermio, yn ogystal ag ystâd diwydiant ysgafn fawr ar hen faes awyr Llandow a ffordd osgoi’r A48, sy’n brysur iawn.
Gorsaf sy’n cael ei staffio’n llawn amser yw Gorsaf Dân y Bontfaen, gan ddarparu gofal 24 awr gan gynnwys 9 awr o ddyletswydd llawn amser yn yr Orsaf Dân a 15 awr o ddyletswydd rhan amser ar alw. Cyflawnir hyn gyda 2 sifft yn cynnwys 7 ymladdwr tân a phob sifft yn gweithio 96 awr er mwyn sicrhau bod rhywun ar ddyletswydd 365 niwrnod o’r flwyddyn.
Mae’r orsaf wedi recriwtio nifer o staff System Dyletswydd Rhan Amser yn ddiweddar fel rhan o’r patrymau gwaith newydd sydd ar waith yn yr orsaf.
Agorwyd yr orsaf ar 9 o fis Mai 1960 fel un â chnewyllyn o griw, daeth yn Amser Llawn ym mis Mehefin 1975 ac un â Chriw yn Ystod y Dydd ym mis Mai 1993.