Mae Gorsaf Dân Cefn Fforest yn gwasanaethu trefi Cefn Fforest a’r Coed Duon a phentrefi Ystrad Mynach, Aberbargoed, Tredegar Newydd, Nelson, Pontllanfraith ac Oakdale. Amcangyfrif poblogaeth yr ardal yw dros 72,000, dros ardal o bron 10,000 hectar.
Lleolir Gorsaf Dân Cefn Fforest rhwng Cymoedd Sirhowy a Rhymni lle mae’n gwasanaethu ystod o ddiwydiannau, busnesau ac ardaloedd preswyl, gan gynnwys nifer o brif adwerthwyr sydd wedi eu lleoli ar gyrion y dref.