Mae Gorsaf Dân Caerdydd Canolog yn gwasanaethu canol Caerdydd, un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop, ac mae’n delio â chymunedau Glan yr Afon, Butetown, Adamstown, Cathays, Glanfa’r Iwerydd, Canol y Ddinas, Bae Caerdydd, Y Sblot a rhannau o’r Rhath. Poblogaeth amcangyfrifedig yr ardaloedd hyn yw 63,000 o bobl, o fewn oddeutu 5 milltir sgwâr.
Mae eich Ymladdwyr Tân lleol wedi ymateb i dros 2,000 o alwadau argyfwng o fewn y gymuned leol rhwng Ebrill 2007 a Mawrth 2008. Mae’r rhain wedi cynnwys tanau cartref domestig, tanau eiddo masnachol, tynnu rhai a anafwyd allan o Wrthdrawiadau Trafnidiaeth Ffordd a delio â gollyngiadau cemegol. Sicrhaodd ymroddiad a phroffesiynoldeb y dynion a’r menywod hyn y deliwyd â’r holl ddigwyddiadau’n llwyddiannus.
Yn ychwanegol at ymateb i argyfyngau mae eich Criwiau Tân lleol hefyd wedi ymweld â 600 cartref i gynnal Gwiriadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref lle gosodwyd larymau mwg am ddim a rhoddwyd cyngor Diogelwch Tân. Cynhaliodd criwiau o Orsaf Dân Caerdydd Canolog 40 ymweliad ysgol i ysgolion cynradd lleol i addysgu’r plant am beryglon tân.
I sicrhau eu bod yn barod i ddelio gyda phob math o sefyllfaoedd mae eich criw lleol wedi cymryd rhan mewn mwy na 30 ymarferiad hyfforddi ac wedi cynnal mwy na 45 ymweliad ymgyfarwyddo ag eiddo masnachol lleol.
Bwriad yr holl bersonél yng Ngorsaf Dân Caerdydd Canolog yw sicrhau mai ein cymuned leol yw’r amgylchedd mwyaf diogel posibl i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.
Caerdydd Canolog yw’ch Gorsaf Dân leol. Os bydd angen arnoch unrhyw gyngor diogelwch rhag Tân, gosod larymau mwg yn eich cartref, cyngor recriwtio neu’ch bod yn grŵp cymunedol lleol a allai elwa ar ein hadnoddau cysylltwch â Phennaeth yr Orsaf, Martin Critcher ar 01443 232564.