Mae Gorsaf Dân Abertyleri yn gwasanaethu tref Abertyleri a phentrefi cyfagos Cwmtyleri, Llanhiledd, Aber-big, Trinant, Blaunau Gwent a Six Bells. Amcangyfrif y boblogaeth yw 21,000 o fewn ardal o tua 11 milltir sgwâr.
Mae Gorsaf Dân Abertyleri yn gwasanaethu amrywiaeth o adeiladau diwydiannol, busnes a phreswyl, yn ogystal â nifer o brif adwerthwyr yng nghanol y dref.
Ar hyn o bryd mae Ymladdwyr Tân Abertyleri’n gweithio system lle maent yn gweithio yn yr orsaf yn ystod y dydd yn cynnal gwaith hyfforddiant a diogelwch, ac ar alwad o’u cartrefi cyfagos gyda’r nos. Mae 2 wylfa o 7 o staff yn gweithio system 4 diwrnod yn y gwaith, 4 diwrnod o seibiant.
15 o staff lifrai yn cynnwys 2 Wylfa o 7 (Coch a Gwyn) a Phennaeth Gorsaf. Mae’r orsaf wedi recriwtio nifer o staff Dyletswydd rhan amser yn ddiweddar fel rhan o’r newid parhaus yn y patrwm gweithio a ddefnyddir yn yr orsaf.
Agorwyd Gorsaf Dân Abertyleri yn gyntaf ym 1966, ar safle hen Gilffordd y Rheilffordd. Mae’r Orsaf wedi ennill gwobrau am ei chynllun anarferol ar ffurf chalet.
Bu’r orsaf unwaith yn gartref i offer tân â chriw 24 awr, darpariaeth offer tân rhan amser, yn ogystal â chludydd Llwyfan Hydrolig a Chludydd Ewynnu, ac mae rhai o’r rhain wedi eu hail-leoli erbyn hyn.
Erbyn hyn mae gan yr orsaf un ysgol ddŵr, cerbyd gyriant pedair olwyn ar gyfer rhannau mwy mynyddig dalgylch yr orsaf, a Cherbyd Offer Cynorthwyo Adeiladu (BASU), ac mae modd defnyddio hwn i roi cymorth ac adnoddau ychwanegol pan fo offer anadlu’n cael eu defnyddio mewn digwyddiadau mawr.
Yn haf 2005, roedd yr orsaf Ambiwlans leol yn Aber-big o dan y dŵr yn sgil glaw trwm, ac Abertyleri oedd un o’r Gorsafoed Tân cyntaf yn ne Cymru i gynnig cartref i’r Gweithwyr Ambiwlans a’u cerbydau. Erbyn hyn mae 2 Ambiwlans a Cherbyd Ymateb Brys wedi’u lleoli’n barhaol yng Ngorsaf Abertileri, yn ogystal â’r gweithwyr cysylltiedig. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y cysylltiadau rhwng y gwasanaethau argyfwng yn enwedig mewn achosion gweithredol