Lleolir Gorsaf Dân Abercynon yn Y Basn, ger tafarn y Navigation. Mae’r orsaf wedi ymateb i fwy na 400 o alwadau eleni gan amrywio o ddamweiniau ffordd a thanau glaswellt.
Mae’r 14 o staff gweithredol yn yr orsaf yn gweithio amrywiaeth o sifftiau er mwyn sicrhau bod cyfarpar ar gael. Caiff Gorsaf Dân Abercynon ei chefnogi hefyd gan gyfarpar cyfagos ym Mhontypridd, Aberdâr a Threharris.
Nod Gorsaf Dân Abercynon yw gwasanaethu cymuned Abercynon a’r ardaloedd cyfagos o ran y safonau diffodd tân proffesiynol a ddisgwylir gan wasanaeth brys. Mae’r orsaf yn ymdrechu i gyflawni ei rhaglen gyfredol o ddiogelwch tân cymunedol trwy wneud gwiriadau diogelwch tân am ddim yn y cartref a gosod datgelwyr mwg yng nghartrefi’r ardal. Mae’r orsaf yn ymweld â phob ysgol yn yr ardal yn aml i roi cyngor i blant am ddiogelwch tân yn y cartref.
Mae gan Orsaf Dân Abercynon swyddi gwag ar gyfer diffoddwyr tân rhan-amser. Os credwch y gallech fod yn rhan o’n tîm ni a diogelu a gwasanaethu eich cymuned leol, cysylltwch â ni:
I siarad â staff recriwtio: 01443 232314
I fynd trwy linell recriwtio awtomatig: 01443 232333
Un Gwylfa rhan amser
Fe’i lleolir ar y man lle defnyddiodd Richard Trevithick y locomotif stêm cyntaf o Ferthyr i Abercynon ym 1804. Hefyd yn y cwrt drilio mae rhan o’r craen llwytho a ddefnyddiwyd i lwytho a dadlwytho cyflenwadau oddi ar gychod camlas ar hen gamlas Morgannwg.