Gorsaf Dân Abercarn

Gorsaf Dân Abercarn  

Lleolir Gorsaf Dân Abercarn ar ystâd ddiwydiannol Tywysog Cymru ger yr A467, ac mae hi’n gwasanaethu trefi Abercarn a Threcelyn, yn ogystal â phentrefi cyfagos Cwmcarn, Crymlin a Swffryd. Mae’r orsaf yn gwasanaethu poblogaeth o tua 22,000 o bobl ac ardal o 5,180 hectar/20 milltir sgwâr.

Mae Gorsaf Dân Abercarn yn delio ag amrywiaeth o risgiau o adeiladau masnachol a diwydiannol, eiddo preswyl, sy’n cynyddu ar raddfa gyson yn gyfredol, ac ardal o goetir sylweddol, gan gynnwys safle twristaidd “Llwybr Golygfaol Cwmcarn”.

Mentrau Cymunedol

  • Ymweliadau diogelwch tân yn y cartref yn y gymuned
  • Ymweliadau addysgiadol cyfnodau allweddol un a dau
  • Ymweliadau i gartrefi ymddeol / sefydliadau gofal preswyl lleol
  • Ymgyrchoedd tymhorol
  • Mentrau RTC ar y cyd â’r heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Cyrsiau diogelwch tân gyda’r Sgowtiaid lleol
  • Gwobr Dug Caeredin
  • Menter Gwylfa Dân mewn ysgolion uwchradd lleol
  • Cyflwyniad “Pass Plus Cymru”
  • Cyflwyniad “Diogelwch â Ffyn Gwreichion”

Staff

15 o aelodau staff mewn lifrai yn cynnwys 2 Wylfa o 7 (Coch a gwyn) a Rheolwr yr Orsaf.

5 aelod staff mewn lifrai System Dyletswydd Rhan Amser.

Beth sy’n Digwydd yn Awr?

Yn dilyn Cynllun Gostwng Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ddechreuodd yn 2007, mae’r Orsaf yn gweithredu newidiadau i’r system griwio. Ar hyn o bryd, mae’r orsaf yn recriwtio personél o’r ardal leol i weithio fel rhan o’r System Rhan Amser a fydd yn cymryd lle’r System Criwio Dydd cyfredol yn y pen draw. Mae’r ddwy system yn rhedeg ochr yn ochr ar hyn o bryd, tan fydd y gweithwyr newydd yn cyflawni’r hyfforddiant a’r cymwysterau angenrheidiol.

Hanes

  • Adeiladwyd yr Orsaf ym 1975 ar safle Pwll Glo Tywysog Cymru.
  • Ym 1878 dioddefodd y pwll y trychineb gwaethaf erioed yn y DU ond un.
  • Ail-leolwyd yr Orsaf o "Hen Iard y Cyngor, West End, Abercarn" lle roedd.
  • Newidiodd o System Sifftiau i Griwio Dydd ym 1979.
  • Cyn cyfuniad y Gwasanaethau Tân ym 1996, roedd yr adeilad wedi bod yn Bencadlys Rhanbarthol, Pencadlys Diogelwch Tân ac ysgol Hyfforddi i Fragâd Dân Gwent.

Cyfeiriad

Darren Drive
Ystâd Diwydiannol Tywysog Cymru
Abercarn
NP11 5AR

Trosolwg

Math: Criwio yn ystod y Dydd/Wedi'u Cadw
Y Criw: 21
Cerbydau:
1 x Tendar Ysgol Ddŵr
Tendar Ysgol Ddŵr

1 x Uned Pwmp Ysgafn 4x4
Uned Pwmp Ysgafn 4x4

1 x Uned Digwyddiadau Cemegol
Uned Digwyddiadau Cemegol
Useful Links
Dolenni Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 03/10/2011
SWFRS