Gorsaf Dân Penarth

Gorsaf Dân Penarth  

Mae Gorsaf Dân Penarth yn gwasanaethu cymunedau Penarth, Dinas Powys a Sully. Amcangyfrif poblogaeth ardal yr Orsaf yw 42,000 o bobl o fewn tua 5 milltir sgwâr.

Oddi mewn i ardal yr Orsaf mae Penarth yn gwasanaethu ysbyty mawr (Llandochau), unedau diwydiant ysgafn, siopau canol y dre, ardaloedd preswyl, marina, cartrefi gofal preswyl a thir amaethyddol gwledig. I’r gorllewin o’r ardal, mae yna nifer o safleoedd petrocemegol, sy’n destun Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH).

I’r dwyrain mae’r pentref chwaraeon rhyngwladol sy’n datblygu’n gyflym ym Mae Caerdydd, wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â Cogan Spur.

Mentrau Cymunedol

  • Grwpiau ieuenctid lleol e.e. cybiau, geidiau
  • Ysgolion – Dug Caeredin, Hyfforddiant Gwylfa Dân
  • Asesiadau Risg Diogelwch Tân yn y Cartref

Staff

Mae Gorsaf Dân Penarth yn cael ei staffio gan 29 o bersonél Amser Llawn, yn cynnwys 4 Gwylfa (Coch, Gwyrdd, Glas, a Gwyn) o 7 a Phennaeth Gorsaf.

Hanes

Fe’i hdeiladwyd gan Wasanaeth Tân Morgannwg a’i hagor ar 30 Mai 1960.

Cyfeiriad

Hazel Road
Penarth
CF64 3PY

Trosolwg

Math: Amser Llawn
Y Criw: 29
Cerbydaus:
1 x Tendar Ysgol Ddwr
Tendar Ysgol Ddwr

1 x Uned Digwyddiadau Cemegol
Uned Digwyddiadau Cemegol

Useful Links
Dolenni Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 03/10/2011
SWFRS