SWFRS

Gorsafoedd Tân 

Gorsafoedd Tân

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn darparu cyflenwad argyfwng a gwasanaethau atal i ardal ddaearyddol fawr.  Mae hyn yn amrywio o Gas-gwent yn y dwyrain, i Borthcawl yn y gorllewin ac o’r Fenni yn y gogledd i lawr i’r glannau.

Er mwyn cyflawni hyn, mae gan y Gwasanaeth 50 Gorsaf sydd wedi’u criwio mewn ffyrdd gwahanol.  Mae 26 yn cael eu criwio gan Ymladdwyr Tân System Dyletswydd Ran Amser (RDS) yn unig.  Mae’r Ymladdwyr Tân hyn yn byw ac yn gweithio o fewn pum munud o’u Gorsaf Dân leol ac yn cael eu galw i ymateb i ddigwyddiadau, pan fydd eu hangen, gan sicrhau bod teclyn bob amser ar gael. 

Mae 10 o’r Gorsafoedd yn cael eu criwio’n barhaol gan Ymladdwyr Tân Llawn Amser sy’n sicrhau bod teclyn tân ar gael ar unwaith ar bob adeg. 

Yn ychwanegol, mae 9 Gorsaf arall sydd ag Ymladdwyr Tân Llawn Amser ac RDS yn darparu criwio ar gyfer eu taclau.

Ar hyn o bryd defnyddir y term ‘Criwio yn Ystod y Dydd’ ar gyfer y 5 Gorsaf olaf.  Mae Ymladdwyr Tân Llawn Amser gan y Gorsafoedd hyn ar sail y rhai sy’n darparu cyflenwad o’r Orsaf yn ystod oriau gwaith ac o’u cartrefi gyda’r hwyr ac ar y penwythnos.  Yn debyg i’r RDS, mae’n rhaid i’r Ymladdwyr Tân hyn fyw o fewn pum munud o’u Gorsafoedd hefyd.

Mae ein holl ymladdwyr tân wedi’u cyfarparu a’u hyfforddi i’r un safon, ni waeth am system ddyletswydd ac mae’r penderfyniad ar sut i griwio ein Gorsafoedd wedi’i seilio ar asesiad risg o’r ardal.  

Mae GTADC yn addo rhoi’r gwasanaeth argyfwng gorau posibl i’w gymuned gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. 

 

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 21/2/2010