Mae Gorsaf Dân Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i lleoli ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn union y tu allan i Ganolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd ei hagor ym 1964 ac mae wedi cael nifer o newidiadau dros y 44 blynedd diwethaf er mwyn bodloni’r risgiau tân ac argyfwng newidiol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Pennaeth Gorsaf S/M Mark Sanderson, ynghyd â phum gwylfa o ymladdwyr tân gweithredol, yn gwasanaethu cymuned de Cymru ac yn benodol oedolion a theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCB). Adwaenir y pum criw fel Gwylfa Wen, Gwylfa Werdd, Gwylfa Las a Gwylfa Goch ac wedi’u staffio gan ymladdwyr tân llawn amser. Mae’r criwiau hyn yn cynnwys dynion a menywod ac yn cynrychioli’r gymuned amrywiol sydd ar hyn o bryd yn byw yn ardal BCB. Gwylfa Dyletswydd Rhan Amser yw’r bumed wylfa, y maen nhw i gyd yn aelodau gwirfoddol sydd wedi dewis gwasanaethu’r gymuned maen nhw’n byw ynddi. Mae’r rôl wirfoddolol hon yn gofyn iddyn nhw hyfforddi ac ymateb wrth ochr eu cydweithwyr llawn amser i unrhyw ddigwyddiad gweithredol a allai eu hwynebu.
Mae’r holl bersonél sy’n gwasanaethu Gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r gwerthoedd allweddol, sef Atal, Diogelu ac Ymateb.
Atal:Mae’r gwerth allweddol hwn yn cefnogi addysg trigolion lleol ym mheryglon tân a thraffig ar y ffyrdd. Yn ogystal â rhoi negeseuon diogelwch tân i oedolion, cafodd mwy na 50 grŵp ysgol Cyfnod Allweddol 1 a 2 ymwybyddiaeth addysgol ar beryglon tân. Ar hyn o bryd mae criwiau hefyd yn cwblhau 48 ymweliad y flwyddyn i adeiladau risg uchel, gan sicrhau parodrwydd gweithredol pe bai argyfwng yn digwydd.
Diogelu:Yn ystod 2007/08, gosodwyd mwy na 720 larwm mwg yn rhad ac am ddim yng nghartrefi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Ynghyd â’r larymau mwg, cwblhawyd Asesiadau Risg Diogelwch Tân yn y Cartref, gan gynnig cyngor ac arweiniad i sicrhau yr aseswyd cartrefi am beryglon tân. Dylai unrhyw un sydd eisiau Asesiad Risg Diogelwch Tân yn y Cartref ffonio 0800 169 324.
Ymateb:Ymatebodd Gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr i dros 1200 o alwadau argyfwng yn 2007/08. Roedd y galwadau hyn yn amrywio o danau eiddo, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a digwyddiadau’n cynnwys deunyddiau peryglus. Mae’r orsaf hefyd yn ymateb i alwadau gwasanaeth arbennig megis achub rhag peryglon dŵr, llifogydd eiddo ac achubiadau anifeiliaid. Mae’r orsaf bob amser ar agor ac yn rhoi ymateb achub 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnig gwasanaeth cymunedol hanfodol i bobl de Cymru.
Cysylltiad Cymunedol:Mae bod yn rhan o’r gymuned yn un o rolau allweddol GTADC. Mae Gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr bob amser ar agor i’r cyhoedd, ac rydyn ni’n eich annog i alw heibio i drafod unrhyw bryderon yn gysylltiedig â thân sydd gennych. Yn ogystal â bod yn ganolbwynt i’r ochr weithredol, mae llawer o raglenni a gwasanaethau allymestyn mae Gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynnig i’r gymuned.
Mae Pennaeth Gorsaf S/M Sanderson yn mynychu ac yn cefnogi cyfarfodydd Heddlu a Chymunedau gyda’i Gilydd (PACT) mewn lleoliadau targededig o fewn cyffiniau’r orsaf. Mae e hefyd yn aelod o dîm Pen-y-bont ar Ogwr Mwy Diogel yn gweithio i leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.
Mae criwiau tân Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r cynllun diogelwch ffordd Pass Plus, rhaglen a anelir at bobl rhwng 17 a 25 oed ac wedi’i dylunio i roi mwy o ymwybyddiaeth addysgol o’r risg a’r perygl sy’n gysylltiedig â dod yn yrrwr ifanc. Mae ymladdwyr tân yn mynd ac yn cyflwyno safbwynt y Gwasanaeth Tân wrth fynd i’r afael â chanlyniadau gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd. Mae ein criwiau ymroddedig hefyd yn gweithio i gefnogi cyflwyno’r neges diogelwch ar y ffyrdd trwy bartneriaeth â swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae cymryd rhan mewn addysg ieuenctid yn ganolbwynt cynradd i’r Gwasanaeth Tân, ac rydyn ni’n cynnig nifer o raglenni ysgol. Bydd yr holl grwpiau blwyddyn Cyfnod Allweddol 1 a 2 yn cael Addysg Diogelwch Tân wedi’i dylunio i gyfateb i’r cwricwlwm ysgol cenedlaethol. Mae Gwylfa Dân, rhaglen ychwanegol, yn fenter a anelir at leihau llosgi bwriadol a chynnau tanau bwriadol, yn adeiladau ysgol ac o’u cwmpas. Cefnogir rhaglen Gwylfa Dân yn:
Ymhellach, bydd yr holl ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn cael Asesiad Bregusrwydd Llosgi Bwriadol, wedi’i ddylunio i roi arweiniad i’r rheolwr sy’n gyfrifol am ddiogelwch tân ar bob safle.
Rhoddir diweddariad fesul dwy wythnos ar Bridge FM gan Bennaeth yr Orsaf i drafod materion lleol a chyfredol sy’n gysylltiedig â thân.
Ar y cyd â’r gwasanaeth ambiwlans lleol, ar hyn o bryd mae’r orsaf yn gweithredu fel man cynhaliol i adnodd ambiwlans i ymateb i ddigwyddiadau’n barod o leoliad sy’n agos at ganol y dref.
Gweledigaeth: Bydd y criwiau tân gweithredol yn parhau i ddatblygu’r rôl atal a diogelu yn y gymuned. Trwy’r cysylltiad cadarnhaol hwn, byddwn yn cynorthwyo â lleihau anghenion ymateb y Gwasanaeth Tân ac Achub i argyfyngau.
“Y Gwasanaeth Tân ac Achub mwyaf effeithiol yw un nad oes byth angen ei defnyddio”